Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd am y tro olaf yn 80 oed
Fore Sul fe fydd dyn 80 oed o orllewin Cymru yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd am y chweched tro yn olynol, fis cyn ei ben-blwydd yn 81.
Mae John ‘Clogs’ Jones, fel y mae’n cael ei adnabod am ei glocsio, yn cofio rasio marathon cyntaf y brifddinas ym 1981.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Mr Jones mai dyma fydd y tro olaf iddo redeg hanner marathon y brifddinas:
“Mae’n neis i bobl weld hen foi yn gallu rhedeg.
“’Dw i’n cofio rhedeg fy marathon cyntaf ym 1981- ras marathon cyntaf Caerdydd... dim ond un siop oedd yn gwerthu ‘sgidia rhedeg bryd hynny.
“Un siop, dim dŵr ar y cwrs, dim energy gels, doedd dim byd i’w gael fel sydd erbyn hyn. Roedd hi’n galed!” meddai.
30,000 o redwyr
Dyma’r nawfed tro i'r ras werthu'r holl docynnau sydd ar gael i gymryd rhan, ac ar ôl iddi werthu allan o fewn 12 awr yn 2025, fe aeth i bleidlais ar gyfer y digwyddiad yn 2026.
Eleni mae dros 30,000 o bobl wedi eu cofrestru ar gyfer y ras ac mae disgwyl i’r digwyddiad godi dros £4 miliwn i wahanol elusennau.
Yn gwmni i John ymysg y miloedd fydd yn rhedeg fydd ei ferch Heledd Cynwal, y gyflwynwraig radio a theledu:
“’Nes i farathon llawn yn ôl yn 2001... ‘dyn ni’n mynd yn ôl sbel wrth gwrs, oeddwn i’n 26 oed ac yn cyflwyno Heno gyda Rhodri Llywelyn ar y pryd.
“’Dyw’r hyfforddi heb fynd yn dda iawn eleni ond beth sy’n bwysig yw fy mod i’n rhedeg gyda Dad!
“Bydd hi’n ras i mi ei thrysori, oedd hi’n bwysig i Dad ein bod ni’n rhedeg gyda’n gilydd ac nad yw’r amser cwblhau yn bwysig.
“Bydd Dad yn 80 yn ei rhedeg hi ac mae e ‘isie i ni fwynhau’r profiad a’r ddinas... a’r ffaith bod gymaint o bobl yn dod mas i gefnogi chi” meddai Heledd.
“Rydych chi’n rhan o rywbeth sy’n llawer yn fwy na chi, ac mae gan bawb ei hanes a’i reswm,” ychwanegodd.
Dal i redeg
45 mlynedd ers iddo redeg ei farathon cyntaf yng Nghaerdydd, dywedodd John Jones er mai hon fydd yr olaf, na fydd yn stopio rhedeg yn gyfan gwbl:
“Wrth fynd yn hŷn ‘dw i’m ‘isie rhoi dolur i fy hunan - mae’r ymarfer yn cymryd amser.
“’Dwi’n cadw’n heini’n barod, fis Mai ‘nes i gwblhau’r CARTEN100, y daith feicio o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod, fis Awst ‘nes i Tour de Môn.
“’Dw i’n dal i allu gwneud y pethau hyn am fy mod i’n eu gwneud nhw,” meddai.
“Mae’n bwysig fy mod i’n gwneud hwn gyda Heledd,” ychwanegodd.
Fe fydd John yn rhedeg ar gyfer elusen NSPCC ac fe fydd Heledd yn rhedeg ar ran elusen Alzheimer’s Society:
“Fi yn nerfus ond ‘dw i’n realistic o nerfus ‘dw i’n credu,” meddai Heledd.