Rhagflas o unig gêm y Cymru Premier JD nos Wener

Sgorio
CPD Bae Colwy

Dyma gipolwg ar unig gêm y Cymru Premier JD nos Wener.

Y Seintiau Newydd (1af) v Bae Colwyn (3ydd) | Nos Wener – 19:45

Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol.

Ond er y llwyddiant yn y gynghrair, mae’n bosib y bydd eleni’n cael ei gyfri fel tymor siomedig i’r Seintiau gan mae dim ond un tlws fydd yn mynd i Groesoswallt, a’u bod wedi cyflawni o leiaf dwbl domestig mewn 10 o’u 12 tymor blaenorol.

Er hynny, mae criw Craig Harrison wedi ennill wyth gêm gynghrair yn olynol ac yn benderfynol o orffen y tymor yn gryf.

Mae Bae Colwyn wedi codi i’r trydydd safle ar ôl buddugoliaeth dda yn erbyn Y Barri, gyda chyn-chwaraewr y Seintiau, Aeron Edwards yn serennu yng nghanol cae.

Dyw Bae Colwyn erioed wedi curo’r Seintiau, ac mae prif sgoriwr y gynghrair, Jordan Williams wedi sgorio yn y dair gêm flaenorol yn erbyn y Gwylanod y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Bae Colwyn: ͏✅❌✅❌✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.