Reform yn 'addo cefnogi’r iaith Gymraeg' wrth lansio eu maniffesto

Daniel Thomas / Farage

Mae plaid Reform UK wedi gwneud addewid i gefnogi'r iaith Gymraeg fel rhan o faniffesto'r blaid, sy'n cael ei lansio ddydd Iau.

Mae'r blaid wedi penderfynu  lansio eu cynllun “uchelgeisiol a realistig” ar gyfer llywodraethu yn y Senedd, yng Nghasnewydd ddydd Iau.

Bydd y blaid yn addo “cefnogi’r Gymraeg” yn ogystal â dileu'r terfyn cyflymder 20mya, medden nhw.

Dywedodd Nigel Farage AS, arweinydd Reform UK, bod yr ymdrech sydd wedi mynd i lunio'r maniffesto “wedi gwneud argraff” arno.

“Mae’r pleidiau eraill wedi datgelu polisïau ffantasi, ond mae’r ddogfen yma’n gynllun difrifol i sicrhau’r newid go iawn mae Cymru’n ei haeddu,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen at ymgyrchu ochr yn ochr â Dan Thomas [arweinydd Reform UK yng Nghymru] a thîm Cymru rhwng nawr a 7 Mai.”

Fel y Ceidwadwyr, bydd maniffesto Reform yn addo adeiladu ffordd osgoi newydd yr M4, yn ogystal  â gwelliannau i’r A55.

Maen nhw hefyd yn addo dileu’r polisi ‘Cenedl Noddfa’ sy’n integreiddio ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru.

Mae’r blaid hefyd yn addo blaenoriaethu pobl Cymru ar gyfer tai cymdeithasol, a rhoi diwedd ar ddefnyddio gwestai mudwyr yng nghymunedau Cymru.

‘Rhyddid mynegiant’

Mae plaid Reform UK wedi eu beirniadu wedi i newyddiadurwr ddweud nad oedd wedi cael caniatâd i fynd i lansiad eu maniffesto.

Dywedodd y newyddiadurwr gwleidyddol Will Hayward nad oedd wedi cael caniatâd i fynychu lansiad maniffesto Reform.

Dywedodd Will Hayward bod “gwahardd newyddiadurwyr yn debyg iawn i beth fyddai Donald Trump yn ei wneud ac yn tanseilio un o brif golofnau ein democratiaeth”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig hefyd wedi cyhuddo Reform o sensoriaeth am atal Mr Hayward rhag mynd yno.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS, bod Reform “wrth eu bodd yn portreadu eu hunain fel amddiffynwyr rhyddid mynegiant, ond y funud y gallai newyddiadurwr ofyn cwestiynau caled, maen nhw’n troi at sensoriaeth”.

“Dydy o ddim yn rhyddid mynegiant os dim ond y rhai sy’n cytuno â chi sy’n cael siarad, gofyn cwestiynau neu gymryd rhan,” meddai.

Mae Reform UK wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.