Rasio Milgwn: Angen ailgartrefu 'dros 360 o gŵn' pan ddaw gwaharddiad i rym

Dau filgi yn rasio

Mae disgwyl y bydd angen ail-gartrefu hyd at 364 o filgwn pan fydd gwaharddiad ar eu rasio yn dod i rym yng Nghymru yn y blynyddoedd nesaf, yn ôl adroddiad newydd.

Fis Mawrth eleni cafodd y bil i wahardd rasio milgwn ei basio yn y Senedd ym Mae Caerdydd, a fyddai'n gwneud Cymru y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwaharddiad.

Er bod disgwyl i'r gwaharddiad gael ei gyflwyno'n raddol o fis Ebrill 2027 hyd at Ebrill 2030, mae'r ddeddfwriaeth yn parhau i wynebu beirniadaeth gan rai o bwyllgorau'r Senedd yn ogystal â her gyfreithiol gan Fwrdd Rasio Milgwn Prydain.

Ailgartrefu

Yn ôl adroddiad cyntaf Grŵp Gweithredu'r Gwaharddiad ar Rasio Milgwn, mae disgwyl y bydd yn rhaid ailgartrefu hyd at 364 o filgwn pan fydd y gwaharddiad yn dod i rym yma.

Daw'r ffigwr o gofnod gan y Greyhound Board of Great Britain (GBGB) o filgwn sydd wedi eu cofrestru gydag unig drac rasio Cymru, sef Stadiwm Milgwn y Dyffryn yn Ystrad Mynach - sy'n wynebu gorfod cau yn sgil y gwaharddiad.

Yn ôl adroddiad y Grŵp, gall cost y broses ailgartrefu fod rhwng £2,200-£2,800 ar gyfer pob ci - sy'n gyfanswm o £800,800 i £1,019,200 gyda'i gilydd.

Ond mae Partneriaeth Milgwn Cymru - sef naw sefydliad lles anifeiliaid gafodd ei ffurfio i gefnogi'r broses o ailgartrefu'r milgwn - wedi beirniadu'r adroddiad.

Dywedodd Alain Thomas ar ran Achub Milgwn Cymru ei fod yn 'siomedig' wrth ddarllen yr adroddiad - gan fod awgrym i ailgartrefu'r milgwn yn syth ar ôl iddyn nhw orffen rasio.

Dywedodd Mr Thomas wrth Newyddion S4C: "Mae'n gwneud llawer mwy o synnwyr dod â'r dirwyn rasio i ben yn raddol, yn hytrach na ailgartrefu ar yr union ddiwrnod y byddai'r rasio'n dod i ben.

"Byddai hynny'n well o safbwynt lles y milgi hefyd - a gall hyfforddwyr wneud y mwyaf o'r cymorth fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru."

Cyflwyno'r gwaharddiad

Mae Partneriaeth Milgwn Cymru wedi amcangyfrif y bydd modd iddyn nhw ddarparu gofal meddygol a lleoedd i achub hyd at 275 o filgwn yn y deufis cyntaf wedi gweithredu'r gwaharddiad.

Ond yn ôl Alain Thomas, efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai o'r cŵn a allai oedi'r cyfnod o ailgartrefu: "Mae'n anodd rhagweld sawl milgi fydd angen rhagor o gymorth meddygol hefyd - achos gall fod yn gostus. 

"Ond wedi dweud hynny, 'dyn ni'n ymdopi'n dda iawn gyda'r galw heddiw, a does dim byd i awgrymu na fydden ni'n gallu ymdopi wrth i'r alw gynyddu," ychwanegodd.

'Cyfradd dychwelyd 11%'

Mewn sgwrs â Newyddion S4C fe ddywedodd Rheolwr Achub ac Ailgartrefnu Achub Milgwn Cymru, Nicola Jones eu bod nhw'n aml wedi ail-gartrefu milgi o fewn 4-6 wythnos.

"Fel sefydliad, 'dyn ni'n ceisio bod yn llawer fwy hyblyg gyda'n ffordd o ail-gartrefu'r milgwn erbyn hyn - 'dyn ni ychydig yn llai llym gyda'n canllawiau i fabwysiadwyr.

"Mae ein cyfradd dychwelyd yn isel iawn o'i gymharu â rhai elusennau mwy cenedlaethol - ac mae hynny'n sicr oherwydd y gymhareb staff i wirfoddolwyr sydd gennym ni. 

"Gan amlaf, 'dyn ni wedi ailgartrefu'r milgi o fewn rhyw 4-6 wythnos. Bydd ambell i achos lle gall gymryd ychydig yn hirach ond mae hynny'n brin iawn," meddai.

Y naw sefydliad sy'n ffurfio'r bartneriaeth, ac a fydd yn cydweithio i ailgartrefu'r cŵn yw:

  • Achub Milgwn Cymru
  • RSPCA
  • Dogs Trust
  • Battersea Dogs and Cats Home
  • Blue Cross
  • Forever Hounds Trust
  • Almost Home Dog Rescue
  • Hope Rescue
  • Greyhound Trust South West Wales 

Mewn ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Grŵp Gweithredu, dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, ei fod yn "cydnabod pa mor bwysig yw cynorthwyo'r unigolion y gallai newidiadau mewn cyflogaeth yn sgil y gwaharddiad effeithio arnynt.

Ychwanegodd y byddai'n "cyfeirio'r unigolon hynny at y cymorth sydd ar gael".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Dyma'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau, a bydd diweddariadau pellach yn dilyn wrth i gynlluniau manwl barhau i gael eu datblygu. Bydd y Grŵp Gweithredu yn parhau i ddatblygu ei argymhellion ac yn darparu diweddariadau ar gynnydd rheolaidd i Weinidogion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.