Zack Polanski yn bwriadu sefyll mewn is-etholiad yn etholaeth Keir Starmer
Mae arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, wedi dweud ei fod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn is-etholiad Holborn a St Pancras, fydd yn sedd wag o ganlyniad i ymadawiad Syr Keir Starmer o San Steffan.
Dywedodd Mr Polanski ei fod yn "gyffrous i gael y cyfle posib i gynrychioli'r ardal yn San Steffan".
"Rwyf wedi byw a gweithio yn y gymuned hon ers sawl blwyddyn, dwi'n adnabod yr ardal ac yn ei charu," meddai wrth y Camden New Journal.
"Mae'r ardal yn cynrychioli popeth sy'n gwneud Llundain yn le mor arbennig. Rwyf yn gyffrous iawn am y cyfle posib i gynrychioli'r lle hwn yn Senedd San Steffan."
Ar hyn o bryd mae Zack Polanski yn aelod o Gynulliad Llundain.
Gallai ei benderfyniad i sefyll yn yr isetholiad fod yn brawf cynnar o boblogrwydd Andy Burnham gyda'r cyhoedd, gyda phleidleiswyr yn yr etholaeth yn symud i ffwrdd o'r Blaid Lafur a thuag at y Blaid Werdd ac ymgeiswyr annibynnol yn y blynyddoedd diwethaf.
Bydd rhaid i Mr Polanski gael ei ddewis yn swyddogol gan aelodau lleol ei blaid i sefyll fel ymgeisydd yn yr etholaeth, ond mae ei sylwadau'n awgrymu ei fod yn hyderus y bydd hynny'n digwydd.
Dywedodd cyn-Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ddydd Mawrth y byddai'n ymddiswyddo fel Aelod Seneddol.
Mewn datganiad, dywedodd bod gwasanaethu etholaeth Holborn a St Pancras am 11 mlynedd wedi bod yn fraint enfawr.
Ychwanegodd y bydd bellach yn canolbwyntio ar "faterion rhyngwladol."
Mae'n debyg mai'r Blaid Werdd fydd yr her fwyaf i Lafur yn is-etholiad Holborn a St Pancras
Mae Llafur wedi ennill etholaeth Holborn a St Pancras yng nghanol Llundain ym mhob etholiad ers iddi gael ei chreu ym 1983, gan ennill o leiaf 40% o'r bleidlais bob tro.
Dim ond dau AS Llafur sydd erioed wedi cynrychioli'r etholaeth, sef y cyn-Ysgrifennydd Iechyd Frank Dobson, rhwng 1983 a 2015, ac yna Syr Keir Starmer.
Yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf yn 2024, fe enillodd Syr Keir Starmer y sedd gyda 48.9% o'r bleidlais.
Daeth yr ymgeisydd annibynnol Andrew Feinstein yn ail gyda 18.9%, a'r Blaid Werdd yn drydydd gyda 10.4%.
Nid oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer isetholiad Holborn a St Pancras.