Ras i ddod o hyd i aelod o luoedd America ar ôl i awyren gael ei saethu i lawr
Mae lluoedd yr Unol Daleithiau ac Iran yn ceisio dod o hyd i swyddog Americanaidd sydd ar goll ar ôl i'w awyren gael ei saethu i lawr.
Roedd y swyddog systemau arfau ar awyren ymladd F-15 yr Unol Daleithiau a gafodd ei saethu i lawr yn ne Iran, yn ôl adroddiad gan wasanaeth CBS News.
Cafodd peilot yr awyren ei achub, ond nid yw'n hysbys beth sydd wedi digwydd i'r swyddog sydd ar goll.
Mae lluoedd diogelwch Iran yn chwilio'r rhanbarth am yr aelod arall o'r criw, gyda swyddogion yn y wlad yn annog dinasyddion i ddod o hyd iddo "yn fyw" ac yn cynnig gwobr o tua £50,000 ($66,000) am ei ddal, meddai cyfryngau'r wlad.
Mae Iran yn honni eu bod wedi saethu ail awyren ryfel Americanaidd i lawr uwchben y Gwlff.
Mae cyfryngau'r Unol Daleithiau yn dweud bod awyren A-10 Warthog wedi cael ei saethu wrth chwilio am yr awyren gyntaf a gafodd ei saethu i lawr.
Daw'r ymgyrch i chwilio am y swyddog coll wrth i Sefydliad Ynni Atomig Iran ddweud bod yr ardal o amgylch gorsaf bŵer niwclear Bushehr, i'r de o'r brifddinas Tehran, wedi dioddef ymosodiad arall ddydd Sadwrn - y pedwerydd ymosodiad ers dechrau'r rhyfel.
Dywedodd y sefydliad fod un o weithwyr diogelwch yr orsaf wedi cael ei ladd yn yr ymosodiad, ac maen nhw'n honni mai'r Unol Daleithiau ac Israel sy'n gyfrifol.
Nid yw'r Unol Daleithiau nac Israel wedi cadarnhau'r ymosodiad.
Roedd ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu nad oedd y digwyddiad wedi "achosi difrod" i brif rannau’r orsaf, yn ôl datganiad gan Sefydliad Ynni Atomig Iran.
Ond oherwydd y "nifer sylweddol o ddeunydd ymbelydrol", mae'r sefydliad yn rhybuddio y gallai unrhyw ddifrod difrifol beri risg o "ddamwain niwclear fawr".
Bushehr yw unig orsaf bŵer niwclear gweithredol yn Iran ac fe gafodd ei chwblhau gyda chymorth Rwsia.
Llun: Awyren ryfel F-15E gan Wikimedia Commons