RAF Fairford: Ymchwilio i gysylltiad ag Iran
Mae heddlu gwrthderfysgaeth yn ymchwilio i weld a oes cysylltiad rhwng Iran a chynllwyn terfysgol honedig mewn maes awyr milwrol yn Lloegr, yn ôl adroddiadau.
Cafodd pump o ddynion eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth yn ystod y penwythnos.
Roedd yr heddlu wedi stopio tri cherbyd oedd yn teithio tuag at RAF Fairford yn Sir Gaerloyw.
Mae RAF Fairford yn cael ei ddefnyddio gan awyrennau bomio’r Unol Daleithiau.
Mae’r gwasanaeth newyddion PA yn dweud eu bod ar ddeall nad oedd yr heddlu yn ymwybodol o unrhyw gynllun ymlaen llaw.
Fe wnaeth un o’r trigolion ffonio 999 ar ôl gweld y cerbydau yn “blocio’r ffordd”, cyn gweld “grŵp mawr o ddynion mewn cyflau (hood) ac yn gwisgo balaclafas”.
Dywedodd wrth PA: “Mae’n ymddangos, drwy wneud hynny, fy mod i wedi rhoi stop ar beth bynnag roedden nhw’n ei gynllunio.”
Fe ddaeth yr heddlu i’r safle tua 15 munud ar ôl iddi gysylltu â nhw, meddai.
Ychwanegodd y ddynes fod trigolion ar y pryd ar ddeall bod y ganolfan wedi’i rhoi dan glo oherwydd “bygythiad terfysgol”.
“Ddylai hi ddim bod yn fater i aelod dewr o’r cyhoedd sylwi ar weithgarwch anarferol am 1 o’r gloch y bore pan fo’r ganolfan awyr ar lefel uchel o rybudd,” meddai wrth PA.
“Dwi’n meddwl ei fod yn gwbl syfrdanol.”
Fe wnaeth pensiynwr hefyd ddweud ei bod wedi gweld mwy o gamau diogelwch o gwmpas y maes awyr yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud bod y mater yn un “pryderus iawn” ac y bydd y llywodraeth wastad yn “cymryd y camau angenrheidiol” i amddiffyn pobl.
Daw’r arestiadau yng nghanol pryderon cynyddol am y bygythiad i’r DU gan wladwriaethau gelyniaethus. Mae Rwsia ac Iran ymhlith y gwledydd sydd wedi defnyddio pobl eraill i weithredu ar eu rhan i gyflawni troseddau ar dir Prydain.
Yn ôl swyddogion, roedd nifer yr achosion diogelwch cenedlaethol oedd yn ymwneud â gweithgarwch gan wladwriaethau gelyniaethus wedi cynyddu 50% yn ystod y chwe mis hyd at fis Rhagfyr 2025.
Llun: Ben Birchall/PA
