RAF Fairford: Un o'r dynion gafodd ei arestio wedi ffonio 999

Heddlu yn RAF Fairford

Fe wnaeth un o'r dynion gafodd ei arestio ger RAF Fairford ddydd Sul ffonio 999 ei hun.

Fe ffoniodd y dyn yr heddlu am 00:45 y bore, bron awr cyn i fenyw ffonio 999 ar ôl gweld dynion mewn mygydau balaclafa.

Cafodd pump o ddynion eu harestio mewn cysylltiad â chynllun honedig i fomio maes awyr RAF Fairford yn Sir Gaerloyw.

Roedd heddlu arfog wedi atal tair fan oedd yn teithio tuag at RAF Fairford yn oriau mân fore Sul.

Ond ddydd Llun, cafodd y pum dyn eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae'r Heddlu Gwrthderfysgaeth wedi dweud nad yw'r ymchwiliad ar ben a'u bod yn ymchwilio i sawl trywydd.

Mae'r heddlu hefyd wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i betrol, ond dim dyfeisiau ffrwydrol, wrth chwilio'r faniau.

Mae disgwyl i'r cordonau ger safle'r RAF gael eu codi'n llwyr ddydd Mercher.

Mae'r pum dyn i gyd yn ddinasyddion y DU rhwng 23 a 25 oed.

Mae pedwar ohonyn nhw'n byw yn Westminster ac un yn Camden, ac mae'r gwaith o chwilio eu cartrefi bellach wedi dod i ben.

Ddydd Mawrth, dywedodd y Comisiynydd Cynorthwyol Laurence Taylor wrth newyddiadurwyr fod "diogelwch y cyhoedd" yn ffactor pwysig.

“Diogelwch y cyhoedd sydd wrth wraidd y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud wrth ymchwilio, ac roedd hynny’n sicr yn wir ddoe,” meddai.

“Rwy’n deall pam fod y datblygiad hwn wedi synnu rhai pobl, ond hoffwn bwysleisio eto mai penderfyniad sy’n ymwneud â’r ymchwiliad yw hwn, ac mae’n seiliedig ar brofiad a strategaeth.”

Mae hefyd wedi dweud bod amodau mechnïaeth "llym" wedi'u gosod ar y pum dyn "o ran eu symudiadau a'u cysylltiad ag eraill".

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.