Cynllun gorsaf betrol ger ffordd osgoi Caernarfon wedi’i wrthod

Llun: Dogfen gynllunio/Cyngor Gwynedd
Cynllun Petrol Caernarfon

Mae cynlluniau i adeiladu gorsaf betrol, mannau gwefru cerbydau trydan a mannau bwyd ger ffordd osgoi Caernarfon wedi cael eu gwrthod.

Fe bleidleisiodd aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn unfrydol yn erbyn y cais ddydd Llun.

Roedd y datblygiad arfaethedig ar dir ger Gwesty Parc Muriau, Ffordd Bont Saint, ger ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.

Roedd yn cynnwys gorsaf betrol, hwb gwefru cerbydau trydan, adeilad manwerthu, mannau bwyd, cyfleusterau golchi ceir, mynedfa newydd a gwaith tirlunio.

Roedd cynlluniau i ddatblygu'r safle wedi cael eu cyhoeddi'n flaenorol yn 2023.

Fe gafodd y cais ei wrthod gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf, ond cafodd ei ddychwelyd at yr aelodau i'w ailystyried yn dilyn cyngor cyfreithiol.

Yn ôl adroddiad i'r pwyllgor, nid oedd yr adroddiad gwreiddiol wedi rhoi ystyriaeth lawn na digonol i'r mannau bwyd a'r elfen fanwerthu oedd yn rhan o'r datblygiad.

Roedd Cyngor Tref Caernarfon wedi gwrthwynebu'r cynllun yn unfrydol.

Dywedodd y cyngor: "Nid yw'r newidiadau i'r cynllun wedi mynd i'r afael â phryderon Cyngor Tref Caernarfon.

Pryder am ddiogelwch ffyrdd

"Mae'r datblygiad y tu allan i ffin ddatblygu'r dref ac wedi'i fwriadu i wasanaethu teithwyr ar y ffordd osgoi yn hytrach na gwasanaethu neu fod o fudd i drigolion tref Caernarfon."

Ychwanegodd y cyngor: "Nid oes prinder cyfleusterau tanwydd traddodiadol yng Nghaernarfon.

"Er bod angen mwy o fannau gwefru cerbydau trydan, nid yw'r cynnig hwn yn diwallu anghenion lleol.

"Mae'r safle ar dir amaethyddol gwyrdd o ansawdd uchel mewn lleoliad amlwg. Mae perygl o effaith economaidd andwyol ar fusnesau'r dref. Mae pryderon sylweddol am ddiogelwch ffyrdd, traffig a llygredd."

Roedd Cyngor Cymuned Bontnewydd hefyd wedi gwrthwynebu'r cynllun yn unfrydol ac yn y "termau cryfaf".

Dywedodd y cyngor cymuned: "Rydym yn gwrthwynebu'r syniad sylfaenol o ddatblygu safle gwasanaethau yn yr ardal hon, ac ni fyddai mân newidiadau i'r dyluniad, na newidiadau tebyg, yn newid ein gwrthwynebiad i'r cynllun.

"Ni ddylai'r awydd i wneud elw ariannol fod yn bwysicach nag anaddasrwydd y safle a'r effaith andwyol ar y boblogaeth leol ehangach."

Roedd Cyngor Cymuned Llanwnda hefyd wedi dweud bod maint y datblygiad yn "rhy fawr, ac yn ddiangen".

Dywedodd y cyngor cymuned fod "ychydig iawn, os o gwbl, o fudd i'r gymuned leol".

Ychwanegodd: "Yn wir, mae'n debygol y bydd yn cael effaith negyddol ar y gymuned leol, gan effeithio ar fusnesau lleol, nid yn unig busnesau gwerthu petrol, ond hefyd siopau, caffis a mannau bwyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.