'Pwysig gweld cynrychiolaeth Gymreig': Elisha Davies yn chwalu ystrydebau ar 'I Kissed a Girl'

'Pwysig gweld cynrychiolaeth Gymreig': Elisha Davies yn chwalu ystrydebau ar 'I Kissed a Girl'

"Fi'n cael eitha' lot o bobl sydd ddim yn credu fy mod i'n hoffi merched."

Mae Elisha Davies, 22 oed o Sir Gaerfyrddin, yn un o sêr ail gyfres y rhaglen realiti arloesol 'I Kissed a Girl.' Ond oherwydd y ffordd mae hi'n edrych, mae rhai yn gwrthod coelio ei bod hi'n hoyw.

"Fi'n ferch sy'n eitha' feminine a mae pawb yn galw fi yn 'Barbie lesbian', ac - I own it," meddai wrth Newyddion S4C.

"So mae fe yn anodd... Pan fi mewn bar hoyw mae merched yn dweud 'na ti ddim, ti'n ally' - ond fi'n fel: 'Na, fi yn! Fi'n hoffi merched!'

"Oherwydd fy mod i'n edrych fel hyn, dyw hwnna ddim yn meddwl bod fi ddim yn hoffi merched."

Ers i ail gyfres y rhaglen gael ei rhyddhau ar y BBC ym mis Mehefin, mae'r Gymraes wedi derbyn sawl neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan fenywod eraill sydd wedi cael sylwadau tebyg am sut maen nhw'n edrych a'u rhywioldeb. 

Image
Elisha are you y rhaglen 'I Kissed a Girl' yn edrych yn emosiynol gyda ei ddwylo yn gorchuddio ei cheg
Llun: BBC

'Rydw i'n barod i gusanu merch'

'I Kissed a Girl' yw'r rhaglen garu gyntaf ar deledu Prydeinig i ganolbwyntio ar berthnasau rhwng merched.

Cyflwynodd Elisha ei hun ar y sioe drwy siarad yn Gymraeg, gan ddweud, "Rydw i'n barod i gusanu merch."

Wrth adlewyrchu ar hynny, dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod hi'n "bwysig cael cynrychiolaeth Cymraeg ac i siarad Cymraeg a dangos personoliaeth fi."

Dywedodd ei bod hi'n gallu gweld pa mor "feminine" mae'n ymddangos ar y sgrin, gan gydnabod: "Fi wir yn Barbie lesbian!"

Ac mae'n teimlo bod ei hymddangosiad ar y sgrin wedi gwneud gwahaniaeth. Mae Elisha wedi derbyn llwyth o negeseuon cadarnhaol ers i'r rhaglen cael ei darlledu, o "ti'n amazing" i "this is the femme representation we need." 

Mae'n "emosiynol," meddai, i weld yr effaith mae ei phresenoldeb wedi ei gael, yn enwedig ar ferched cwiar o Gymru a merched sy'n uniaethu fel 'femme' ac yn pwysleisio agweddau "benywaidd" o'u hunaniaeth.

"Fi'n deall nawr fy mod i'n gallu bod yn fi fy hun, ac mae hwnna'n iawn. Fi ddim eisiau newid i ffito i mewn i stereoteip."

Pwysigrwydd cynrychiolaeth 

Mae Elisha yn sôn yn aml am bwysigrwydd rhaglenni fel hwn i ddangos i bobl eu bod nhw'n gallu edrych sut bynnag y maen nhw'n dymuno.

Image
 Cast ail gyfres 'I Kissed a Girl'
Llun: James Stack/BBC/TwoFour

"Mae gennych chi'r hawl o hyd i hoffi pwy bynnag rydych chi'n eu hoffi – beth bynnag yw eich golwg," meddai.

"Oherwydd fi'n edrych fel hyn, dyw hwnna dim yn meddwl bod fi ddim yn hoffi merched. Ti'n gallu gwisgo be' ti eisiau, ti'n gallu edrych fel ti eisiau."

Fe symudodd Elisha i Abertawe yn 12 oed, ac roedd tyfu lan fel merch heb ffrindiau hoyw yn ne Cymru yn heriol, meddai. 

"Dwi'n dod o ardal eithaf bach a dydw i ddim yn nabod llawer o bobl hoyw yna - felly i gael y gynrychiolaeth ar-lein ac ar y sioe, mae fe mor bwysig," meddai.

"Dwi'n meddwl fod bod ar y sioe hwn wedi rhoi llawer o hyder i mi, oherwydd fi 'di cael llawer o negeseuon o bobl yn dweud, 'fi'n edrych fel ti a ti ar sioe sydd amdan hoffi merched, a mae fe'n iawn i fi edrych fel hwnna, a dal fod yn cyfforddus mewn rhywioldeb fi.'"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.