Pryderon fod haint Hepatitis A yn lledaenu’n ardal Y Barri

Stryd y Barri

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod nhw’n pryderu fod haint Hepatitis A yn lledaenu’n lleol yn nhref Y Barri, Bro Morgannwg.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru bod Hepatitis A o'r un straen wedi’i ddarganfod mewn tair aelwyd ar wahân yn Y Barri.

Haint feirysol yw Hepatitis A sy'n effeithio ar yr afu (neu'r iau). Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr heb broblemau iechyd hirdymor.  

Ond gall fod yn ddifrifol, a hyd yn oed yn fygythiad i fywyd o bryd i’w gilydd.

Mae tîm o arbenigwyr iechyd wedi eu rhoi ar waith i ddeall yn well sut mae'r haint yn lledaenu yn ardal Y Barri.

Mae'r rhai sydd wedi bod yn sâl yn derbyn gofal priodol ac yn gwella'n dda, yn ôl y llefarydd.

Mae'r awdurdod wedi ysgrifennu at rieni a gofalwyr sydd â phlant mewn ysgolion  cynradd yn y dref i bwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo.

Dywedodd Susan Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mai’r ffordd orau o atal Hepatitis A rhag lledaenu yw golchi dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr.

“Mae hyn yn bwysig ar ôl defnyddio'r toiled, newid cewynnau a chyn paratoi neu fwyta bwyd,” meddai.

“Efallai na fydd rhai plant ifanc sydd wedi’u heintio yn dangos symptomau, ond gallan nhw ledaenu’r haint i bobl eraill a all fynd yn sâl wedyn.  

“Dylai rhieni a gofalwyr helpu plant ifanc i olchi eu dwylo’n iawn, a’u hatgoffa nhw i wneud hynny.”

Os ydych chi neu blentyn yn teimlo'n sâl, ac mae gennych chi symptomau fel twymyn, teimlo'n flinedig iawn, methu canolbwyntio, teimlo'n sâl, neu os yw’ch croen neu’ch llygaid yn felyn, dylech chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Hepatitis A ar gael ar wefan GIG 111 Cymru, neu yn Hepatitis A - Iechyd Cyhoeddus Cymru <https://phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/hepatitis-a/>.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.