Pryder am effaith ail-gylwyno eryrod môr i Gymru ar adar eraill
Mae rhai ecolegwyr a cadwraethwyr wedi mynegi pryder am sgil effaith ail-gyflwyno eryrod môr i Gymru, gan ddweud y gallen nhw roi adar prin eraill mewn peryg.
Mae yna bryderon am effaith y cynllun ar balod (puffin), gwylogod (guillemots), drycin y graig (fulmars) a gwylanod goesddu (kittiwakes).
Fe gafodd yr eryrod eu hailgyflwyno i’r Alban ym 1975 ar ôl iddyn nhw gael eu difodi yn 1918, ac mae 45 o’r adar hefyd wedi cael eu hailgyflwyno’n llwyddiannus i Ynys Wyth ers 2019.
Nid yw’r rhywogaeth wedi cael ei hailgyflwyno i Gymru eto, ac mae cynigion i ryddhau hyd at 60 o eryrod yng Ngwent yn rhannu barn pobl sy’n caru natur.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn cefnogi’r cynllun arfaethedig yng Ngwent, ond mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn ei wrthwynebu.
Fis diwethaf, cafodd eryr oedd wedi cael ei ryddhau ar Exmoor ei weld uwchben Ynys Sgomer, noddfa adar môr oddi ar arfordir Sir Benfro.
Dywedodd Sarah Kessell, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru wrth bapur newydd y Guardian ei bod yn “poeni fwyfwy am ailgyflwyno” yr eryrod.
Mae wedi galw am ragor o dystiolaeth am eu heffaith ar adar môr sy’n nythu ar glogwyni.
“Mae ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn noddfa i boblogaethau o adar môr sydd o bwys byd-eang, ac sydd eisoes dan fygythiad,” meddai.
“Mae gennym ddyletswydd enfawr i warchod yr adar môr ar yr ynysoedd rydyn ni’n eu rheoli.”
Ond dywedodd yr Athro Geoff Hilton, pennaeth tystiolaeth gwlyptiroedd yr Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Gwlyptiroedd (WWT), sy’n arwain y cynllun yng Ngwent bod “rhywfaint o risg wedi bod ynghlwm wrth waith cadwraeth erioed”.
“Yr hyn sy’n hanfodol yw ein bod yn asesu’r risgiau hynny’n ofalus yn gynnar, yn defnyddio tystiolaeth gadarn i ymchwilio i’w maint, ac yn eu pwyso a’u mesur yn erbyn cyfleoedd posib,” meddai.
Roedd eryrod cynffonwen yn bwyta amrywiaeth eang o fwyd, gan gynnwys anifeiliaid marw, pysgod a mamaliaid bach, meddai.
“Drwy gyflwyno’r cynllun fesul cam yn ofalus, ein nod yw sefydlu rhwng saith a naw pâr o eryrod cynffonwen sy’n bridio dros y 10 mlynedd nesaf,” meddai.
“Felly, dydyn ni ddim yn disgwyl i’r ailgyflwyno hwn leihau poblogaeth unrhyw un rhywogaeth yn sylweddol, na chael effaith sylweddol arni.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y bydd proses ymgynghori gyhoeddus o ddiwedd 2026 i ddechrau 2027 cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.
