Protestiadau yn erbyn costau byw ar draws yr Almaen yn troi'n dreisgar
Roedd golygfeydd treisgar ar draws yr Almaen nos Sadwrn gyda gwrthdaro rhwng protestwyr â’r heddlu dros gynnydd mewn costau byw.
Roedd sawl adroddiad am fandaleiddio a lladrata o siopau yng nghanol Frankfurt yn hwyr nos Sadwrn.
Ar wahân i Frankfurt - canolfan ariannol yr Almaen - roedd digwyddiadau o drais yn Berlin, Cologne a Hamburg, gyda'r heddlu'n dweud eu bod wedi defnyddio canon dŵr i wasgaru protestwyr oedd yn targedu gweithwyr brys gyda thân gwyllt, cerrig a photeli.
Ymunodd miloedd â phrotestiadau heddychlon i raddau helaeth yn gynharach yn y dydd.
Fe'u trefnwyd gan y grŵp ymgyrchu Gen Z regelt - sy'n golygu "Mae Gen Z yn cymryd yr awenau" - i brotestio yn erbyn tanariannu mewn ysgolion, costau byw uchel, toriadau gwariant cyhoeddus a gwasanaeth milwrol.
Mae'r aflonyddwch yn yr Almaen yn dilyn protestiadau torfol tebyg yn Ffrainc, lle roedd mwy na 320,000 o bobl wedi protestio ddydd Sadwrn hefyd.
Wrth iddi nosi, fe wnaeth y gwrthdystiadau droi'n dreisgar yn yr Almaen.
Dywedodd yr awdurdodau yn Frankfurt, Munich a Berlin fod cymaint â 18,000 o brotestwyr, tua hanner yr hyn a amcangyfrifwyd gan y trefnwyr ar eu gwefan.
Fe ddywedodd llefarydd Gen Z regelt, Lina Friedrich, fod y gwrthdystiadau "i ymladd dros heddwch a rhyddid, yn hytrach na rhyfel a gorfodaeth".
"Yr hyn sydd bwysicaf i ni yw gwell cefnogaeth i'r systemau iechyd ac addysg. Rydym yn erbyn gwasanaeth milwrol gorfodol ac rydym o blaid dosbarthiad tecach o'r baich," meddai.