Profion DNA yn datrys cynllwyn i ddwyn gwartheg ym Môn

Gwartheg / Buwch

Mae pum dyn wedi eu dedfrydu ar ôl cynllwynio i ddwyn gwartheg o fferm ar Ynys Môn. 

Dywedodd y Barnwr Nicola Jones fod yr achos yn ymwneud â diffynyddion yn gweithio yn y gymuned ffermio a bod yr hyn a ddigwyddodd yn “gywilydd.” 

Dywedodd: “Mae ffermio wedi’i seilio’n helaeth ar ymddiriedaeth.”

Ar 10 Rhagfyr 2022 ar fferm ger Llannerch-y-medd, cafodd y gwartheg eu harchwilio gan eu perchennog a'u cadw yn y sied. 

Pan ddaeth y ffermwr yn ei ôl y diwrnod canlynol, roedd rhai o'r gwartheg yn rhydd ac roedd 14 ar goll. 

Fe ddefnyddiodd Heddlu'r Gogledd ddeunydd CCTV i ddod o hyd i lori a aeth i gyfeiriad y fferm, ac yna o gyfeiriad y fferm. 

Fe gafodd y lori ei gweld yn ddiweddarach ar yr A55 yn mynd i gyfeiriad Wrecsam. 

Llwyddodd yr heddlu i gysylltu'r cerbyd â Liam Kettleborough, 29 oed. 

Wedi iddo gael ei arestio, wrth ddadansoddi ei ffôn fe ddaeth yr heddlu o hyd i negeseuon rhyngddo ef a’r pedwar diffynnydd arall, Jack Billington, 23 oed, Stanley Jones, 26 oed, Michael McLeod, 57 oed, a Clifford Smith, 65 oed.

Fe ddangosodd y negeseuon a data lleoliad eu ffonau fod Billington, Jones, a McLeod wedi teithio i Ynys Môn ar 10 Rhagfyr 2022, ac yn ôl i ardal Wrecsam yn oriau mân y bore canlynol.

Cafodd y cerbyd ei yrru wedyn i fferm Clifford Smith yn ardal Stoke-on-Trent. 

Profion DNA

Daeth y swyddogion o hyd i 12 o wartheg wedi eu dwyn ar ddwy fferm Smith, ac roedd profion DNA ar naw ohonynt yn profi eu bod wedi dod o'r fferm ym Môn. 

Dywedodd Andrew Warman o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd yn rhaid dod â thystiolaeth o wahanol ffynonellau ynghyd yn yr achos hwn.

“Roedd yr ymchwiliad yn drylwyr iawn, ac roedd hynny’n golygu bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gallu cyflwyno tystiolaeth gref oedd yn dangos sut yr oedd pob unigolyn wedi chwarae rhan yn y drosedd.

“Mae troseddau gwledig yn cael effaith sylweddol ar gymunedau, gan effeithio ar fywoliaeth pobl, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd troseddau o’r fath o ddifri.”

Cafodd Jack Billington, 23 oed o’r Orsedd, Wrecsam, ddedfryd o garchar am 14 mis wedi ei ohirio am 18 mis. Fe fydd yn rhaid iddo wneud gwaith di-dâl am 250 awr, ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn a thalu £1,000 mewn iawndal.

Cafodd Liam Kettleborough, 30 oed o Rugby, sy’n cludo ceffylau ar draws Ewrop, ddedfryd o 19 mis o garchar wedfi ei ohirio am ddwy flynedd, gyda 250 awr o waith di-dâl. Fe fydd yn rhaid iddo hefyd dalu iawndal o £1,000.

Cafodd Michael Mcleod, 57 oed o Llai, Wrecsam sydd ar fudd-daliadau ond wedi bod yn ffermwr gwartheg, ddedfryd o 19 mis yn y carchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, cyrffyw dros nos am chwe mis a thalu £500 o iawndal.

Cafodd Stanley Jones, 27 oed o Pentre Broughton, briciwr oedd wedi bod yn gweithio ar fferm, ddedfryd o 19 mis yn y carchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, 210 awr o waith di-dâl a thalu £1,000 o iawndal.

Fe wnaethon nhw gyfaddef cynllwynio i fyrglera.

Fe wnaeth Clifford Smith, ffermwr 65 oed o Stoke-on-Trent, gyfaddef trin eiddo oedd wedi’i ddwyn. Cafodd ddedfryd o 12 mis yn y carchar wedi ei ohirio am yr un cyfnod a rhaid iddo dderbyn triniaeth iechyd meddwl a thalu £200 mewn iawndal.

Fe wnaeth y barnwr ganmol  ymchwiliad “di-baid” swyddog heddlu i’r lladrad.

Bydd rhaglen arbennig Y Llinell Las: Lladron Gwartheg yn cael ei ddarlledu nos Lun, 23 Mawrth, am 21.35 ar S4C ac ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.