Profiad 'brawychus' o aros 29 awr am driniaeth llid yr ymennydd mewn ysbyty
Mae teulu dyn oedd â llid yr ymennydd ('meningitis') a wnaeth aros am 29 awr mewn adran achosion brys mewn ysbyty cyn derbyn meddyginiaeth i’w drin yn dweud iddo dderbyn gofal “brawychus” yno.
Roedd yn rhaid i Iolo Edwards, 34 oed o Lannefydd, sydd yn dad i dri o blant, dreulio 11 awr yn gorwedd ar lawr ystafell aros yr uned yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gyda phobl yn “camu drosto” wrth iddo lewygu a chyfogi.
Roedd gwraig Mr Edwards, Mari Hughes, wedi mynd â’i gŵr i’r ysbyty ar unwaith ar ôl derbyn cyngor gan y meddyg teulu, oedd yn amau bod ganddo lid yr ymennydd firol.
Fe wnaeth y meddyg ffonio’r uned a darparu llythyr yn egluro hynny, yn y gobaith y byddai Mr Edwards yn cael ei weld ar frys.
Ond mae Mrs Hughes yn dweud i’w gŵr gael ei “anwybyddu” am dros ddiwrnod cyfan yn yr uned.
“Oedd o’n frawychus y ffor’ gath o’i drin, yn enwedig efo meningitis, pan mae intervention cynnar yn rili bwysig,” meddai.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud bod “yn ddrwg iawn gennym i glywed am brofiad y claf hwn,” gan ddweud nad oes modd wneud unrhyw sylw am yr amgylchiadau penodol “oherwydd cyfrinachedd cleifion.”
‘Inhumane’
Cysylltodd Mrs Hughes â Newyddion S4C ar ôl gweld stori ar ein gwefan fis Mawrth yn adrodd am raglen Y Byd ar Bedwar, oedd yn trafod ‘gofal ar goridorau’.
Erbyn hyn roedd Iolo Hughes wedi dychwelyd adref ar ôl treulio 19 diwrnod yn Ysbyty Glan Clwyd, ar ôl derbyn diagnosis o lid yr ymennydd ac aniwrysm.
Er iddo dderbyn gofal "da" ar ôl cael gwely yn yr uned feddygol aciwt ac yna’r uned strôc, ma teulu Mr Edwards wedi disgrifio’r gofal y cafodd yn ystod ei 29 awr gyntaf yno fel “inhumane”.
Ar ôl dyddiau gyda chur pen, meigryn, salwch a sensitifrwydd i olau, roedd y cwpwl wedi ymweld â'r adran brys ar ddydd Mawrth 2 Chwefror. Dywedodd y meddygon yno bod ffliw ar Iolo, a'i yrru adref.
Ond parhau i waethygu gwnaeth ei gyflwr y diwrnod wedyn wrth iddo golli ymwybyddiaeth (consciousness).
Ar ôl ail-ymweld â’r meddyg teulu, fe gafodd y cwpwl eu gyrru’n ôl i’r adran frys ar unwaith gyda llythyr gan y meddyg yn hysbysebu ei fod yn credu bod llid yr ymennydd firol ar Mr Edwards. Fe ffoniodd yr adran frys o flaen llaw yn ogystal, er mwyn ceisio sicrhau y byddai achos Mr Edwards yn derbyn blaenoriaeth.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2033457138471682259?s=20
Cyrhaeddon nhw’r uned achosion brys am tua 13.00, a hithau’n brysurach yno na’r diwrnod cynt.
“Odda ni’n fana’ yn y waiting area tan hanner nos,” meddai Ms Hughes.
“Odd Iolo ar y llawr fatha ci, efo jacket dros ei ben, wrth y vending machines. Odd pobol just yn camu drosto fo a staff yn anwybyddu fo. Doedd o ddim yn gallu eistedd i fyny, oddo fewn ag allan o fod yn deffro.”
Cafodd archwiliad triage yn fuan ar ôl cyrraedd, ac yna cafodd brofion pelydr x (x-ray) a CT. Ond gyda chyflwr Iolo'n gwaethygu, dechreuodd Mrs Hughes ofyn i’r staff am gymorth.
“Odd nyrsys yn mynd yn flin efo fi, achos oni’n 22 wythnos yn feichiog adeg yna. Oddwn i’n cadw gofyn i’r receptionist, ‘when’s he going to be seen? He’s really ill,’ ag odd hi’n mynd yn flin efo fi. Oddwn i’n cal fy ffobio off, yn teimlo fel bo fi just yn boen.”
Cysgu mewn swyddfa
Ar ôl hanner nos, cafodd hylifon mewnwythiennol (IV fluids) mewn cadair ar goridor yr adran, cyn cael ei symud i gysgu ar wely mewn swyddfa aelod staff am ychydig oriau. Yn gynnar bore Iau, cafodd ei symud yn ôl i’r coridor i dderbyn yr hylifau ar gadair unwaith eto.
Ar ôl 17.00 y diwrnod hwnnw, cafodd Iolo feddyginiaeth gwrth-firol fel cam ragofal tuag at drin llid yr ymennydd, tra bod meddygon yn disgwyl am wely. Dros nos, cafodd ei symud i wely yn yr uned ‘Majors’, cyn symud y bore wedyn i'r uned aciwt am ragor o brofion.
Dywedodd Mrs Hughes: “Y waiting area oedd y gwaetha’ achos oddo yna am 11 awr yna, ag yn exposed i lot o bobol.
“Odd y lle just yn bedlam, oedda ti'n gweld y pwysau oedd ar y staff, chwarae teg. Oedd o ddim yn lle neis iddyn nhw weithio o gwbl, ma pawb isho cael eu gweld.
“Ond os ti’n mynd yna efo llythyr gan doctor yn deud bod o efo suspected meningitis, dyla hynny cael ei gymryd yn serious."
Canlyniadau
Ar 7 Chwefror, ac yntau'n dechrau teimlo’n well ar ôl derbyn meddyginaeth a chyffuriau, daeth cadarnhad bod y sganiau CT ac MRI wedi dangos aniwrysm, a bod y mater yn cael ei gyferio at Ysbyty Walton, yn Lerpwl.
Dywedodd y meddyg yn Ysbyty Glan Clwyd yr un diwrnod ei fod yn credu bod llid yr ymennydd bacteriol ar Iolo.
“Os sa fo di bod efo bacterial meningitis, ag mi oedd 'na farc cwestiwn am huna am ‘chydig bach - hwnna sydd wedi bod yn Kent yn ddiweddar," ychwanegodd Mari, ond ar 10 Chwefror, daeth cadarnhad mai llid yr ymennydd firol oedd ar Iolo, nid bacteriol.
Sgil effeithiau
Yn y pen draw, cafodd ei gadw yn yr ysbyty am gyfanswm o 19 diwrnod cyn cael dychwelyd adref. Ond mae’r sgil effeithiau yn parhau i Mr Edwards, sy'n gweithio fel peiriannydd.
Dywedodd Mrs Hughes: "Mi fydd o off ei waith am fisoedd rŵan. Mae o’n teimlo’r after-effects o gael meningitis, mae o efo shakes, mae o’n blino’n hawdd, short term memory fo ddim yn grêt. Yn y stroke ward, oedd ei goesau o’n teimlo’n rhyfedd, yn stryglo cerdded a poen i lawr ei gefn."
Ymateb
Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n ddrwg iawn gennym glywed am brofiad y claf hwn a’r pryderon a godwyd.
“Gan nad ydym wedi derbyn y pryder hwn yn uniongyrchol, ni allwn wneud sylwadau ar yr amgylchiadau penodol oherwydd cyfrinachedd cleifion.
“Byddem yn annog y claf, neu eu teulu, yn gryf i gysylltu â’n Gwasanaeth Cyngor a Chysylltu â Chleifion (PALS) fel y gallwn ymchwilio’n llawn i’w pryderon, a siarad â nhw’n uniongyrchol.”
Llun: Mari Hughes, Iolo Edwards a'u teulu
