Prifysgol Met Caerdydd yn lansio cwrs gwrthderfysgaeth
Mae Prifysgol Met Caerdydd wedi lansio cwrs ôl-raddedig gwrthderfysgaeth cyntaf y DU.
Fe fydd y cymhwyster Rheoli Risg Gwrthderfysgaeth - Tystysgrif Ôl-raddedig PgC yn cael ei gynnal gan Ysgol Reoli'r brifysgol ac yn dechrau ym mis Ionawr 2027.
Mae'r cwrs wedi cael ei greu mewn ymateb i'r Ddeddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd), neu Gyfraith Martyn, gyda disgwyl iddi ddod i rym yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.
Mae'r ddeddf wedi ei chynllunio i wella diogelwch y cyhoedd ar draws lleoliadau a digwyddiadau, ac wedi ei henwi er cof am Martyn Hett, un o’r 22 o bobl a laddwyd yn ymosodiad Arena Manceinion yn 2017.
Yn ôl y brifysgol, mae'r tystysgrif ôl-raddedig wedi’i chynllunio i "arfogi gweithwyr proffesiynol â’r wybodaeth uwch, y sgiliau ymarferol a’r hyder sydd eu hangen i gyflawni gofynion y ddeddfwriaeth."
Mae'r cwrs wedi ei anelu at y rhai sy'n gweithio mewn amgylcheddau gan gynnwys rheoli digwyddiadau a lleoliadau, diogelwch preifat, awdurdodau lleol a lletygarwch.
Bydd addysgu ar y campws, dysgu ar-lein ac ymweliadau maes ymarferol i gyd yn rhan o'r cwrs.
Dywedodd Dr Dewi Jaimangal-Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheoli Risg Gwrthderfysgaeth: "Wrth i sefydliadau wynebu cyfrifoldebau cynyddol am ddiogelwch y cyhoedd, mae angen cynyddol am weithwyr proffesiynol a all lywio cymhlethdodau rheoli risg terfysgaeth yn hyderus.
"Mae’r rhaglen newydd hon wedi’i chynllunio i ddarparu dysgu ymarferol, cymhwysol sy’n eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a chryfhau gwydnwch o fewn eich sefydliad."
Ychwanegodd Adrian Dennehy, Pennaeth Diogelwch a Chynllunio Argyfwng ym Met Caerdydd: "Profodd digwyddiadau ofnadwy 22 Mai 2017, pan lofruddiwyd 22 o bobl yn y bomio yn Arena Manceinion, i fod yn gatalydd ar gyfer y newid angenrheidiol hwn i’r dirwedd gyfreithiol.
"Sicrhaodd yr ymgyrch ddiflino dan arweiniad Figen Murray fod ymosodiad terfysgol dinistriol wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y dyfodol wrth amddiffyn ein cymunedau."