Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi aelodau cabinet ei lywodraeth

Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi aelodau cabinet ei lywodraeth

Mae Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi pa ASau Plaid Cymru fydd yn aelodau o'i gabinet cyntaf.

Daw hyn ar ôl iddo gael ei gadarnhau yn swyddogol yn Brif Weinidog newydd Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Dyma restr aelodau ei gabinet:

  • Prif Weinidog – Rhun ap Iorwerth
  • Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb – Sioned Williams
  • Gweinidog Cabinet dros Gyllid – Elin Jones
  • Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon – Heledd Fychan
  • Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad – Dafydd Trystan Davies 
  • Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal – Mabon ap Gwynfor 
  • Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni – Adam Price 
  • Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg – Anna Brychan
  • Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd – Llŷr Gruffydd
  • Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Siân Gwenllian
  • Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – Nerys Evans
  • Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod – Delyth Jewell 
  • Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth – Mark Hooper
  • Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol – Cefin Campbell
  • Darpar Gwnsler Cyffredinol – Elfyn Llwyd

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "hyderus y bydd y Cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i'r ffordd mae ein cenedl yn cael ei harwain".

“Mae fy llywodraeth yn un unedig, llawn doniau a phrofiad sy’n barod i wasanaethu," meddai.

"Bydd yn mynd ati i gyflawni ar sail yr hyn sy’n bosibl, gan weithio fel un tîm bob dydd i wella bywydau pobl Cymru.

“Byddwn yn cael ein llywio gan ein hegwyddorion wrth inni chwilio am atebion ymarferol i'r materion sy'n wynebu cymunedau ar hyd a lled ein gwlad – a byddwn yn bwrw ati i gyflawni ein hamcanion gydag egni yn ddi-ymdroi.

"Mae ein haddewid yn syml – ad-dalu’r ymddiriedaeth y mae pobl wedi’i rhoi ynom cyn gynted ag y gallwn, gan ddod â'r genedl ynghyd. Mae cyfnod newydd o arweinyddiaeth yn dechrau heddiw.”

Fe ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams: “Rwy’n ei theimlo’n fraint cael fy mhenodi'n Ddirprwy Brif Weinidog gan Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n ymgymryd â'r rôl hon gydag ymdeimlad dwfn o bwrpas.

“Mae hon yn Llywodraeth i bawb sydd wedi ymrwymo i droi addewid yn weithredu ar unwaith i bobl Cymru, gyda phwyslais clir ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pob cymuned.

“Rwy'n benderfynol o weithredu ar ein blaenoriaethau o'r diwrnod cyntaf, yn enwedig o ran cyflwyno ein cynnig gofal plant a thaclo tlodi plant ar frys, fel bod pob plentyn yn cael y diogelwch a'r cyfle mae’n ei haeddu.”

Ymateb

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid Reform UK, Dan Thomas: "Mae angen newid brys ar ein GIG, ein hysgolion a'n heconomi, ac er y gallaf anghytuno â Phlaid Cymru, mae angen iddyn nhw lwyddo.

"Byddwn yn craffu ar eu gweithredoedd ac yn gweithio i sicrhau bod eu sylw ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac nid ar annibyniaeth Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Rydym yn edrych ymlaen at fod yn wrthblaid effeithiol, gan graffu ar Lywodraeth newydd Cymru a'i dwyn i gyfrif. 

"Rydym yn byw mewn byd sydd â llawer o ansicrwydd ac mae pob llywodraeth yn wynebu heriau. 

"Does neb yn gwybod yn well na'n plaid ni ei bod yn fraint llywodraethu a bod y cyfrifoldeb aruthrol bellach yn gorffwys ar ysgwyddau gwahanol."

Wrth groesawu cyhoeddi enwau aelodau cabinet y Llywodraeth newydd, dywedodd Siân Howys, is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith: "Dyma gyfle i'r cabinet newydd weinyddu drwy'r Gymraeg, a sicrhau bod gan y Gymraeg statws llawn fel iaith gwaith yn y Llywodraeth. 

"Byddai hynny’n rhoi neges glir bod pob hyder gan y Llywodraeth yn nyfodol y Gymraeg, gan greu effaith gadarnhaol ac ymarferol ar unwaith yn ein gweinyddiaeth gyhoeddus.

“Hoffem longyfarch Anna Brychan yn gynnes ar ei phenodi’n Weinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg. Edrychwn ymlaen i gwrdd â hi’n fuan i drafod gwaith y Llywodraeth newydd. 

"Wrth gwrs, mae’r Gymraeg yn faes sy’n ymestyn i bob maes, ac edrychwn ymlaen felly at gwrdd hefyd â’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth, a gweinidogion eraill i drafod y Gymraeg a’n cymunedau mewn meysydd ar draws gwaith y Llywodraeth”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.