Prif swyddog elusen i'r henoed yn y gogledd wedi ei diswyddo yn dilyn twyll ariannol

Caryl Jones Age Cymru

Gall Newyddion S4C ddatgelu fod prif swyddog un o elusennau'r henoed mwyaf yn y gogledd wedi ei diswyddo yn dilyn twyll ariannol.

Roedd Caryl Jones yn Brif Swyddog ar elusen Age Cymru Gwynedd a Môn tan iddi gael ei diswyddo ddiwedd mis Ionawr.

Cafodd y twyll ei gyfeirio at yr heddlu gan ymddiriedolwyr yr elusen.

Fe arweiniodd hyn at Caryl Jones yn derbyn rhybudd amodol gan yr heddlu yn dilyn honiad o dwyll drwy gamddefnyddio swydd.

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Gallwn gadarnhau bod swyddogion wedi ymchwilio i honiad o dwyll drwy gamddefnyddio swydd yn dilyn adroddiad a wnaed i ni ar 9 Chwefror. 

"Cafodd menyw 33 oed ei harestio wedi hynny mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac arweiniodd y mater at rybudd amodol."

Mae'n rhaid i unigolyn gyfaddef ei euogrwydd wrth dderbyn rhybudd amodol gan yr heddlu.

Mewn datganiad dywedodd Caryl Jones wrth Newyddion S4C  fod y "materion rydych yn cyfeirio atynt yn rhan o anghydfod cyfreithiol parhaus" mewn tribiwnlys cyflogaeth.

"Oherwydd natur y prosesau cyfreithiol hyn, nid wyf yn gallu gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."

'Camau priodol'

Mewn ymateb i gwestiynau gan Newyddion S4C, dywedodd Dafydd Iwan, cadeirydd ymddiriedolwyr Age Cymru Gwynedd a Môn fod yr elusen wedi mynd "drwy'r camau priodol dan gyfarwyddyd ein hymgynghorwyr cyflogaeth, ac arweiniodd hynny at ddiswyddo'r Prif Weithredwr ar Ionawr 30ain".

"Am fod yna dwyll yn ymwneud ag arian yn yr achos, roedd yn ddyletswydd arnom i gyflwyno'r ffeithiau i sylw'r heddlu," meddai.
 
Dywedodd fod y twyll ariannol yr oedd yr elusen yn gwybod amdano yn "bendant wedi cael ei ad-dalu", ond nid oedd Age Cymru Gwynedd a Môn am ddatgelu union faint y twyll.
 
Ychwanegodd fod Age Cymru Gwynedd a Môn yn bartneriaid o fewn rhwydwaith Age Cymru, ac yn rhan o Age UK, a'u bod "wedi cael cymorth parod ac ymarferol iawn gan Age Cymru ac Age UK yn y mater hwn".
 
"Mae profiad fel hwn yn sicr o'n gwneud yn fwy ymwybodol o'r angen i sicrhau diogelwch a gwarchodaeth mewnol yn yr elusen, ac yr ydym yn cryfhau ein polisiau mewnol ar hyn o bryd," meddai.
 
"Mae gwarchod ein gwasanaethau i'r henoed drwy gryfhau ein systemau mewnol yn flaenoriaeth i ni, gyda chymorth Age Cymru ac Age UK." 
 
Cafodd Caryl Jones ei phenodi i'r swydd yn ystod haf 2023. Cyn hynny roedd yn Uwch Reolwr Gofal Strategol gyda'r elusen.
 
Yn ôl gwybodaeth ar wefan Y Comisiwn Elusennau, mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn cyflogi 50 o bobl ac yn derbyn incwm o £1,040,349, sydd yn cynnwys cytundebau a grantiau gan y llywodraeth.
 
Mae'r elusen yn gweithredu o'i phencadlys yn Bontnewydd ger Caernarfon.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.