Prestatyn: Dynes feichiog wedi marw 'ar ôl anadlu mwg a nwyon tân' mewn fan
Mae cwest wedi clywed bod dynes feichiog wedi marw ar ôl anadlu nwy a mwg o dân mewn fan ym Mhrestatyn.
Cafodd y cwest ei agor yn Rhuthun ddydd Llun i farwolaeth Samantha Natalie Phythian, 35 oed, o’r Rhyl.
Bu farw yn y tân ar Ffordd y Gwaith Nwy yn y dref ar 4 Hydref.
Roedd Ms Phythian wedi ei geni yn Sheffield ac nid oedd ganddi gyfeiriad sefydlog.
Dywedodd Uwch Grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, wrth y gwrandawiad bod dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
“Dan yr amgylchiadau, nid wyf am fynd i lawer o fanylder,” meddai.
Clywodd y llys bod Ms Phythian wedi ei hadnabod gan brofion DNA.
Fe wnaeth patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rogers, gynnal archwiliad post mortem.
Dywedodd Mr Gittins bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gofyn iddo ohirio ei ymchwiliad i farwolaeth Ms Phythian.
“Yn syml, mae’r cwest wedi ei agor a’i ohirio,” ychwanegodd.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Samantha Phythian: "Mae ei marwolaeth drasig a chynamserol wedi gadael ei theulu a'i ffrindiau wedi'u hysgwyd yn llwyr, ac rydym yn ei chael hi'n anodd derbyn colli rhywun a oedd yn golygu cymaint i gynifer.”
Mae Thomas Bell, 38 oed, o'r Rhyl, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Fe wnaeth ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug fore dydd Gwener ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
