Powys: Apêl o'r newydd i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr

Apel Cronfa Ddwr Claerwen

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi apêl o'r newydd am wybodaeth er mwyn adnabod corff dyn a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys ddwy flynedd yn ôl.

Cysylltodd aelod o’r cyhoedd â’r heddlu ar ôl gweld corff yng Nghronfa Ddŵr Claerwen ychydig cyn 08.30 ar ddydd Gwener, 18 Hydref 2024.

Mae’r ymchwiliad wedi awgrymu bod y dyn rhwng 30 a 60 oed, tua chwe throedfedd o daldra, a’i fod yn gwisgo siwt wlyb ('wetsuit') ddu Zone 3 Agile, maint XL.

Dywedodd yr heddlu y gallai’r corff fod wedi bod yn y dŵr am “hyd at 12 wythnos” cyn iddo gael ei ddarganfod gan gerddwr.

Er gwaethaf gwaith ymchwilio helaeth, nid yw’r heddlu wedi llwyddo i ddarganfod pwy yw’r dyn hyd yma.

'Hynod anarferol'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Mae hon yn sefyllfa hynod anarferol gan fod dwy flynedd wedi mynd heibio ac nid ydym yn nes o hyd at wybod pwy yw’r person hwn.

“Rydym wedi cysylltu â holl heddluoedd y DU i gynnal gwiriadau am bobl sydd ar goll, rydym wedi cynnal chwiliadau drwy’r Gronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, ac wedi cyhoeddi hysbysiadau i heddluoedd tramor drwy Interpol.

“Rydym hefyd wedi edrych drwy gofnodion DNA, olion bysedd a deintyddol am gysylltiad posib, ac wedi gweithio gyda Face Lab ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl i greu delwedd ddigidol o’i wyneb rhag ofn y byddai hyn yn helpu rhywun i’w adnabod.

“Rydym wedi apelio at y cyhoedd am wybodaeth sawl gwaith, a phob tro rydym wedi adolygu’r wybodaeth a roddwyd i ni ac wedi dilyn cysylltiadau pan fo angen rhagor o wybodaeth i adolygu’r mater. Rydym wedi gwneud hyn yn y gobaith o allu ei ddychwelyd at ei deulu neu ei anwyliaid. 

“Yn anffodus, nid yw’r un ohonynt wedi bod yn allweddol i ddarganfod pwy yw’r person hwn.”

Apeliadau

Er bod apeliadau blaenorol wedi cyrraedd “nifer sylweddol” o bobl yn y DU a thramor, mae'r Ditectif Arolygydd Ponting yn gobeithio y gallai’r neges dal gyrraedd y person cywir ddwy flynedd yn ddiweddarach.

“Mae'n rhaid bod rhywun yn gwybod pwy yw’r dyn hwn,” meddai. 

“Efallai eich bod yn ei adnabod o’r ddelwedd ddigidol, neu efallai eich bod wedi ymweld â Chronfa Claerwen ac wedi gweld rhywbeth sy’n sefyll allan yn eich cof - beth bynnag ydyw, gallai helpu i symud ein hymchwiliad yn ei flaen.

“Ein nod yn y pen draw yw adnabod y dyn hwn er mwyn i ni allu ei ddychwelyd at ei deulu neu ei anwyliaid fel y gall gael ei gladdu’n briodol.”

Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.