Pontnewynydd: Yr heddlu'n chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag anhrefn treisgar

PAJ

Mae swyddogion sy'n ymchwilio i achos o anhrefn ym Mhontnewynydd ger Pont-y-pŵl wedi apelio am gymorth i ddod o hyd i ddyn a fan.

Bu farw dyn o'i anafiadau yn dilyn yr ymladd honedig rhwng nifer o ddynion yn y dref ar ddydd Iau 6 Awst.

Roedd Anthony “Tony” Jones yn 56 oed ac yn dod o Aberhonddu. Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei deulu.

Nos Sul, cyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod yn awyddus i siarad gyda dyn o'r enw Anthony Paul Jones. Mae Mr Jones yn 40 oed ac yn dod o Flaenafon, Torfaen.

Mae swyddogion hefyd yn apelio am gymorth i ddod o hyd i fan Ford Transit las, gyda'r rhif cofrestru MA23 FLC, a oedd yn ôl adroddiadau yn rhan o'r anhrefn.

Y gred yw bod panel blaen isaf y fan ar goll.

Derbyniodd swyddogion adroddiad am anhrefn  yn ymwneud â grŵp o ddynion yn Stryd y Felin am tua 19.15 ar noson y digwyddiad.

Cafodd 10 dyn sydd yn 31, 33, 34, 39, 40, 40, 45, 59, 61 a 73 oed eu harestio mewn cysylltiad â'r anhrefn.

Mae tri dyn 39, 45 a 61 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ers hynny.

Mae saith dyn yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Laura Bartley: “Rydym yn cydnabod y bydd adroddiadau o’r math yma yn achosi pryder yn ein cymunedau, ond mae ein swyddogion yn gweithio ddydd a nos ac yn cynnal ymholiadau fel rhan o’r ymchwiliad hwn ar hyn o bryd.

"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau’r dioddefwr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.