Pont y Borth: Pobl Ynys Môn wedi ‘eu gadael i lawr’ meddai'r Prif Weinidog

Rhun ap Iorwerth

Mae’r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud bod problemau Pont y Borth yn "annerbyniol" a bod pobl Ynys Môn "wedi eu gadael i lawr yn rhy hir".

Bu'n rhaid cau Pont y Borth am gyfnod eto fore dydd Mawrth ar ôl amheuaeth bod cerbyd dros y terfyn pwysau wedi croesi’r bont.

Mae’r bont wedi gorfod cau sawl gwaith yn ystod y pythefnos diwethaf ar ôl i gerbydau dros y terfyn pwysau ei chroesi.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, fod pobl yr ynys yn wynebu "anhrefn" o ganlyniad i gau’r bont.

Wrth ateb cwestiynau yn ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog cyntaf, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod wedi bod yn "brwydro am amser hir ar y pwnc dan sylw".

"Mae'n annerbyniol ein bod wedi bod mewn sefyllfa lle rydym yn ceisio atgyweirio pont a allai ac a ddylai fod wedi cael ei thrwsio amser maith yn ôl," meddai.

"Mae’n dal i lusgo ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd y Llywodraeth hon yn gweithredu gyda mwy o frys a ffocws.

"Rydw i wedi ymrwymo i adnewyddu'r broses o ddatblygu atebion i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Afon Menai.

"Dyna pam ein bod ni eisoes wedi dechrau gweithio o fewn y Llywodraeth, gyda'r bwriad o sicrhau atebion tymor byr o ran croesi’r Fenai ac atebion tymor hir ar gyfer cydnerthedd ar draws y culfor."

Cafodd goleuadau traffig dros dro eu gosod ar Bont y Borth yr wythnos diwethaf er mwyn atal cerbydau rhy drwm rhag ei chroesi.

Cafodd y mesurau eu cyflwyno ar ôl i’r bont gael ei chau ddwywaith ddydd Mercher diwethaf, yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn.

Ar y pryd, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod y cyfyngiadau diweddar wedi bod yn "hynod rwystredig".

"Mae pobl Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi cael eu siomi ers gormod o amser gan annibynadwyedd croesfannau’r Fenai," meddai.

Dywedodd fod gwaith eisoes wedi dechrau o fewn y Llywodraeth i sicrhau mesurau tymor byr ac atebion tymor hir i gryfhau gwytnwch ar draws y Fenai.

‘Dim cynlluniau’

Roedd Mr ap Iorwerth yn wynebu ei sesiwn gyntaf o gwestiynau fel Prif Weinidog newydd Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth, yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol ei blaid fis diwethaf.

Cadarnhaodd heddiw hefyd y bydd baner yr Undeb yn parhau i gael ei harddangos y tu allan i adeiladau Llywodraeth Cymru, er bod llywodraeth newydd Plaid Cymru sydd bellach mewn grym yn cefnogi'r egwyddor o annibyniaeth.

Dywedodd Mr ap Iorwerth nad oes "unrhyw gynlluniau i newid" y baneri sy’n cael eu chwifio y tu allan i swyddfeydd y Llywodraeth.

Mae hyn yn cynnwys Pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, lle mae baner yr Undeb a baner Cymru ill dwy yn cael eu harddangos ar hyn o bryd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi dweud yn flaenorol y byddai’n defnyddio ei amser yn y Llywodraeth i gyflwyno’r achos dros Gymru annibynnol, ac fe drafododd hyn yn ei alwad gyntaf gyda Syr Keir Starmer ar ôl cael ei benodi’n Brif Weinidog.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig i'r Prif Weinidog, gofynnodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, i Mr ap Iorwerth gadarnhau a fyddai'n chwifio baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau'r Llywodraeth.

Mater i'r Prif Weinidog yw chwifio baneri ar adeiladau Llywodraeth Cymru, gyda chyngor swyddogion Llywodraeth Cymru yn llywio’r penderfyniad.

Nid yw'n destun pleidlais yn y Senedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth mewn ymateb: "Nid oes unrhyw gynlluniau i newid protocol baneri."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.