Pont y Borth: Cyflwyno mesurau ychwanegol ar ôl cau ddwywaith ddydd Mercher

Pont y Borth: Cyflwyno mesurau ychwanegol ar ôl cau ddwywaith ddydd Mercher

Bydd goleuadau traffig yn cael eu gosod a cherbydau’n cael eu gwirio cyn croesi Pont y Borth, ar ôl iddi gael ei chau ddwywaith ddydd Mercher oherwydd bod dau gerbyd rhy drwm wedi ei chroesi.

Cafodd y bont ei chau toc wedi 12.00 yn dilyn amheuon fod cerbyd dros y terfyn pwysau o 7.5 tunnell wedi ei chroesi yn y bore.

Cafodd y bont ei hail-agor am gyfnod am 12.50, ond mewn diweddariad am 13.30, dywedodd Traffig Cymru bod y bont wedi’i chau unwaith eto oherwydd bod "cerbyd trwm ychwanegol" wedi croesi’r bont.

Erbyn 15.30 roedd y bont wedi agor unwaith eto.

Nos Fercher, cafodd datganiad ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno tan ddiwedd gŵyl Eisteddfod yr Urdd er mwyn "lleihau'r aflonyddwch".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall rhwystredigaeth pobl ynghylch cau Pont Menai yn ystod y cyfnod prysur hwn, ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i leihau’r aflonyddwch.

"Dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy’n gallu defnyddio Pont Menai.

"Ar ôl torri’r rheolau yn ddiweddar, bydd goleuadau traffig ar y bont o heno ymlaen (27 Mai) tan ddiwedd Eisteddfod yr Urdd. Bydd cerbydau sydd dros y terfyn pwysau yn cael eu troi i ffwrdd.

"Bydd unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr heddlu. Byddwn hefyd yn cynyddu presenoldeb yr heddlu a Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn.

"Rydym yn gofyn i bobl barchu’r rhai sy’n gweithio ar y bont ac i ddilyn eu cyfarwyddiadau.

"Mae gwella gwytnwch ar draws Afon Menai yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru fel rhan o’n cynlluniau ehangach ar gyfer trafnidiaeth a’r economi."

'Rhwystredigaeth'

Mewn ymateb i'r bont yn cael ei chau dwywaith ddydd Mercher, mae arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn "fwy rhagweithiol" er mwyn atal i'r bont gael ei chau eto.

Dywedodd Mr Pritchard: “Rydym wedi annog ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy rhagweithiol gyda rheolaeth traffig dros Bont y Borth - yn enwedig yn ystod cyfnod Eisteddfod yr Urdd.”

“Tra’n cydnabod rhwystredigaeth pawb, rydym unwaith eto’n annog gyrwyr i gydymffurfio’n llawn gyda’r cyfyngiadau er mwy atal tagfeydd ac anawsterau i bawb.”

Wrth gyhoeddi bod y bont ar gau am yr ail dro brynhawn Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru: “Yn dilyn amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont y prynhawn yma, mae’r ffordd wedi’i chau er mwyn cynnal archwiliad rhagofalus.

“Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

“Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac atgoffwn bob defnyddiwr mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy’n cael defnyddio Pont y Borth.”

Roedd adroddiadau fod tagfeydd traffig ar yr A55 ger Pont Britannia amser cinio yn dilyn cau Pont Menai.

Eisteddfod

Daw'r datblygiad wrth i filoedd o bobl deithio i’r ynys ddydd Mercher ar gyfer y pumed diwrnod o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod ar ôl i'r bont gau ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth y byddai trydydd croesiad dros y Fenai yn "ateb amlwg" i drafferthion teithio'r ardal.

"Beth sydd angen ei sicrhau wrth gwrs ydi bod y bont yn gallu agor eto mor fuan â phosib a bod y gwaith cynnal a chadw a thrwsio rŵan yn gallu digwydd mor fuan â phosib," meddai. 

"Ma’ ‘na gwestiwn arall wedyn wrth gwrs o wytnwch y croesiad a mae fy Llywodraeth i’n benderfynol o fwrw ati i chwilio am yr atebion sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol."

"Be ‘dan ni’n chwilio amdana fo wrth gwrs ydi nid pont, ond bod yna wytnwch i’r croesiad," meddai. 

"Ma’ ‘na nifer o opsiynau, be sydd genna ni’r cyfle i neud rŵan wrth gwrs fel Llywodraeth ydi mynd ati yn syth, i neud yn siŵr bod yr atebion gorau er mwyn rhoi’r gwytnwch yna yn ei le yn cael ei weithredu."

Dywedodd AS Ynys Môn, Llinos Medi ei bod yn "hynod siomedig" bod y bont wedi gorfod cau am yr ail ddiwrnod yn olynol.

"Wrth ystyried pwysigrwydd yr wythnos hon i Ynys Môn o ran cynnal yr eisteddfod ar faes sioe Mona, mae hon yn sefyllfa rwystredig iawn," meddai.

"Ers sawl blwyddyn bellach, mae effaith problemau gyda’r bont ar bobl Ynys Môn a Gogledd Orllewin Cymru wedi bod yn ddifrifol, gan effeithio ar gymudwyr, busnesau lleol a gwasanaethau brys sy’n dibynnu ar rwydwaith trafnidiaeth ddibynadwy.

"Ni all y sefyllfa hon barhau. Mae'n rhaid gorfodi’r cyfyngiadau pwysau yn effeithiol, ac mae’n hanfodol bod cynllun clir a chynaliadwy yn cael ei roi ar waith i atal cau’r bont dro ar ôl tro."

Ychwanegodd y bydd yn cynnal trafodaethau gydag Aelodau’r Senedd i sicrhau bod datrysiad i’r broblem yn dod yn "flaenoriaeth" i Lywodraeth Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.