Pobl ifanc Cymru i gael cynnig brechiad Men B ar ôl marwolaethau Prifysgol Caint
Bydd pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol yn eu blwyddyn gyntaf, yn cael cynnig brechiad meningococol B (Men B) am y tro cyntaf yn ystod ail hanner 2026.
Daw'r cynnig yn dilyn sawl achos o lid yr ymennydd, neu feningitis, yn bennaf ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caint ym mis Mawrth 2026.
Roedd y clefyd wedi achosi marwolaeth dau fyfyriwr yn y sir.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fore Gwener fod y rhaglen ar gael am "gyfnod cyfyngedig o amser" i bawb a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008.
Llid yr ymennydd math B - neu Men B - yw'r achos mwyaf cyffredin o glefyd meningococol ymledol yn y DU, ac mae'n gallu achosi llid yr ymennydd a sepsis - cyflyrau sy'n gallu peryglu bywyd.
Pobl ifanc 18 oed yw'r rhai sydd yn wynebu'r risg uchaf o ddal Men B, yn ôl tystiolaeth.
Mae risgiau penodol yn gysylltiedig â lleoliadau addysg uwch oherwydd lefelau uchel o gymysgu cymdeithasol agos.
Pryd fydd y brechiadau ar gael?
Bydd y brechiadau'n cael eu cynnig rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2026.
Yn ogystal â phawb sy'n 17 ac 18 oed, bydd unrhyw un rhwng 18 a 25 oed a fydd yn derbyn addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yn hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, yn gymwys i dderbyn y brechiad.
Fe fydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn rhaglen dau ddos, gydag unigolion 17 ac 18 oed yn cael llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd o 6 Gorffennaf a fydd yn rhoi manylion am sut i gael eu brechiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen i unigolion 18-25 oed a fydd yn mynd i addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, gysylltu â'u bwrdd iechyd ar ôl 20 Gorffennaf i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, yn dweud ei bod yn "hanfodol" bod pobl ifanc yn derbyn y brechiad.
“Mae hwn yn frechlyn diogel ac effeithiol a fydd yn cynnig amddiffyniad pwysig i'r rhai sy'n ei gael," meddai.
"Gyda'r flwyddyn academaidd newydd yn agosáu, mae'n hanfodol bod pobl ifanc cymwys yn dod ymlaen i gael y ddau ddos cyn gynted ag y bydd y rhaglen yn agor. Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gymryd camau ar unwaith.”