Plismones wedi dweud wrth fenyw ‘rwy’n gwybod y gyfraith’ cyn ymosodiad rhyw honedig

Llys y Goron Bryste
Llys y Goron BrysteLlys y Goron Bryste

Mae llys wedi clywed bod plismones sydd wedi ei chyhuddo o ymosod yn rhywiol ar fenyw yng Nghaerdydd wedi dweud wrthi "mae angen i ti ddweud ydw, rwy'n gwybod y gyfraith" cyn y digwyddiad honedig.

Mae Fiona Anderson, 33 oed, o Gaerwysg, yn gwadu dau gyhuddiad o ymosodiad rhyw yn 2018 tra roedd hi’n ymweld â phrifddinas Cymru.

Clywodd Llys y Goron Bryste ddydd Llun fod Fiona Anderson, sy'n gwnstabl gyda Heddlu Dyfnaint a Chernyw, wedi mynd i’r gwely gyda’r ddynes ar ôl i'r ddwy fod yn yfed gyda'i gilydd, gan gyflawni gweithred rywiol arni heb ei chaniatâd.

Roedd Anderson wedi parhau gyda'r weithred er i'r fenyw ddweud "Dydw i ddim eisiau cael rhyw gyda ti, rwyt ti’n rhy feddw", clywodd y llys.  

Dywedodd Emma Martin ar ran yr erlyniad fod Fiona Anderson a’r fenyw wedi treulio’r noson gyda’i gilydd yng Nghaerdydd.

Ar ôl i'r fenyw fynd i'r gwely, clywodd y llys fod Ms Anderson wedi mynd i mewn i'r ystafell yn feddw a cheisio cyflawni gweithred rywiol.

"Roedd yn amlwg i Fiona, roedd yn gwbl amlwg nad oedd (y fenyw) eisiau cyswllt rhywiol â hi," meddai Ms Martin.

"Y noson honno, ymosododd Fiona yn rhywiol ar (y fenyw) yn feddw."

'Teimlo na allai adrodd i'r heddlu'

Er i'r fenyw ddweud nad oedd hi eisiau cael rhyw, fe aeth Ms Anderson ymlaen i'w chusanu a'i brathu, clywodd y llys.

Dywedodd Ms Martin: "Roedd Fiona yn mynd yn fwy garw gyda hi, tynnodd ddillad isaf (y fenyw) i ffwrdd.

"Ar y pwynt hwn, mae (y fenyw) yn dweud bod Fiona wedi dweud wrthi: ‘Mae angen i ti ddweud ydw, rwy'n gwybod y gyfraith, mae angen i ti ddweud ydw’."

Clywodd y llys nad oedd y fenyw wedi rhoi caniatâd i Fiona Anderson gyflawni'r weithred rywiol arni.

Fe wnaeth Ms Anderson roi'r gorau iddi ar ôl i'r fenyw wrthod dweud "ydw" a gadawodd yr ystafell wely. 

Yn fuan wedyn, clywodd y fenyw Ms Anderson yn chwydu yn yr ystafell ymolchi.

Clywodd y llys fod atgof Fiona Anderson o'r noson "ychydig yn aneglur", ond ei bod hi'n gwadu unrhyw weithgaredd rywiol heb ganiatâd gyda'r fenyw.

Mae Ms Anderson wedi cael ei hatal o'i swydd ers ei harestio ym mis Mawrth 2023.

Dywedodd Ms Martin fod y fenyw i ddechrau "yn teimlo na allai adrodd" i'r heddlu am Ms Anderson oherwydd ei bod yn blismones, gan adrodd am y digwyddiad sawl blwyddyn yn ddiweddarach.

Mae'r achos yn parhau.

 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.