Plismon yn dweud ei fod wedi ymateb yn rhesymol wrth ddyrnu dyn ym Mhorthmadog
Mae plismon sydd yn destun gwrandawiad camymddwyn am ddyrnu dyn naw o weithiau mewn gardd ym Mhorthmadog yn 2023 wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Mewn gwrandawiad panel disgyblu ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn ddydd Mercher, dywedodd y Cwnstabl Richard Williams ei fod yn credu ei fod wedi ymateb gyda grym rhesymol o dan yr amgylchiadau ar y diwrnod pan aeth gyda heddwas arall i arestio Steven Clark.
Mae Mr Williams yn wynebu wyth o honiadau, ac fe honnir ei fod wedi torri Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn ymwneud â defnyddio grym, awdurdod, parch a chwrteisi, ac ymddygiad anfrïol.
Mae'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Ar ddiwedd achos llys blaenorol yn 2025, fe gafwyd PC Williams yn ddieuog o ymosod ar Mr Clark a'i dagu'n fwriadol.
Ar ddechrau'r gwrandawiad fore Mercher, dywedodd yr heddwas ei fod yn 44 oed a'i fod wedi bod yn gweithio fel plismon ers 23 o flynyddoedd.
Dywedodd ei fod wedi cael ei alw i ardd tŷ ar stad Pensyflog ym Mhorthmadog i gynorthwyo PC Einir Williams, yn dilyn adroddiad fod Steven Clark wedi bod yn gyfrifol am drais domestig yn honedig.
Cafodd clipiau fideo o gamerâu oedd yn cael eu gwisgo gan y ddau heddwas yn ystod y digwyddiad eu dangos i'r panel.
Ymateb priodol
Gofynnodd Sam Green, bargyfreithiwr Richard Williams wrtho os oedd wedi mynd dros ben llestri o gwbl ar unrhyw adeg mewn ymateb i'r sefyllfa yr oedd ynddi?
"Na, roeddwn i ond yn gwneud y gorau y gallwn i mewn sefyllfa anodd iawn," meddai PC Williams.
Aeth Mr Green ymlaen i ofyn iddo os oedd wedi meddwl yn wahanol am ei ymddygiad o wylio'r dystiolaeth yn ystod y gwrandawiad?
"Fe wnes i y gorau y gallwn i yn y sefyllfa benodol yna," meddai.
Dywedodd nad oedd yn ymwybodol ble'r oedd ei gydweithiwr PC Einir Williams pan yr oedd ar lawr yn yr ardd gyda Mr Clark.
"Fe allai fod hynny wedi effeithio ar fy mhenderfyniadau os byddwn yn gwybod ble'r oedd Einir ar yr union adeg yna," meddai.
Gofynnodd ei fargyfreithiwr iddo os wnaeth o unrhyw beth o'i le wrth wybod yr hyn yr oedd yn ei wybod ar y pryd?
"Na - dwi ddim yn credu fy mod wedi gwneud unrhyw beth o'i le," meddai'r heddwas mewn ymateb.
Yn ddiweddarach, cafodd PC Williams ei holi gan y bargyfreithiwr Stephen Morley ar ran Adran Safonau Proffesiynol Heddlu'r Gogledd.
Cafodd fideo ei dangos o Mr Clark yn griddfan mewn poen yn ystod y digwyddiad i'r panel.
Gefynnau
Dywedodd Mr Morley wrth PC Williams fod Mr Clark yn amlwg yn anghyfforddus pan gafodd ei roi mewn gefynnau ('handcuffs').
Ychwanegodd fod Mr Clark wedi dweud wrtho ei fod wedi torri ei fraich yn flaenorol, ac a fyddai wedi bod yn well gwirio os oedd yn iawn ar y pryd?
"Oedd y griddfan o ganlyniad i chi yn troi'r gefynnau?" gofynodd Mr Morley.
"Dim o gwbl", meddai PC Williams.
Aeth Mr Morley ymlaen i ddweud fod Mr Clark wedi awgrymu ei fod am eistedd ar fainc yn yr ardd er mwyn rhoi sanau am ei draed.
"Mae'n droednoeth gyda'i sanau yn ei law ac mae'n amlwg ei fod wedi cael ei arestio a'i fod yn mynd i'r orsaf heddlu?"
Dywedodd yr heddwas ei fod yn awyddus i gael gefynnau ar Mr Clark cyn gynted â phosib.
Awdurdod
Awgrymodd y bargyfreithiwr nad oedd ymateb yr heddwas yn briodol i gais Mr Clark i wisgo ei sanau - oedd hynny yn awgrymu anfodlonrwydd ar ran yr heddwas, a'i fod yn anhapus ei fod yn cwestiynu ei awdurdod?
Gwadu hynny wnaeth PC Williams, gan ddweud mai ei swydd fel heddwas oedd rheoli'r sefyllfa yn hytrach na gadael i unigolion gerdded i ffwrdd o sefyllfa.
Gwadodd hefyd ei fod wedi troi'r gefynnau ar unrhyw adeg er mwyn achosi poen i Steven Clark.
Dywedodd y bargyfreithiwr fod yr heddwas wedi dal Mr Clark mewn "headlock", a'i fod wedi gwasgu ei ben yn galed gan droi ei ben i fyny i'r awyr.
"Byddai gwasgu pen a gwddf rhywun yn galed yn arwain atynt yn methu anadlu byddai?" meddai Mr Morley.
"Roeddwn i'n credu ei fod yn ymateb cymesur i'w stopio rhag ymosod arnom ni," meddai'r heddwas.
"I godi ei ben i fyny...rhaid eich bod wedi defnyddio nerth sylweddol?" meddai Stephen Morley.
Fe wnaeth Mr Williams gytuno gyda hyn.
Ychwanegodd hefyd ei fod wedi defnyddio iaith briodol, pan ofynnodd y bargyfreithiwr iddo os oedd wedi gwaethygu'r sefyllfa drwy alw Mr Clark yn "boy" a rhegi arno.
Dywedodd mai rhoi pen Steven Clark mewn 'headlock' oedd y cam cymesur gorau i'w gymryd yn y sefyllfa yr oedd ynddi.
Dyrnu
Dywedodd Mr Morley fod pawb yn cytuno fod naw dwrn wedi eu taflu gan PC Williams ar Mr Clark.
"Mae dwrn i'r wyneb yn gallu bod yn boenus iawn... felly allai fod yn beryglus," meddai'r bargyfreithiwr.
"Gallai", meddai PC Williams.
Aeth Mr Morley ymlaen i awgrymu nad oedd yr heddwas wedi oedi i asesu'r sefyllfa ar ôl taflu'r ddwrn gyntaf.
"Mae dyrnu rhywun naw gwaith yn ei ben yn beth peryglus?"
"Ydy" meddai'r plismon.
Esboniodd Richard Williams ei fod wedi dyrnu Steven Clark gyda'i fraich wan, ac nad oedd yn hyderus o'i sefyllfa ar y pryd.
"Byddai un dwrn wedi bod yn ddigon?" gofynnodd y bargyfreithiwr.
"Nid oeddwn yn credu mai dyma oedd yr achos ar y pryd," meddai PC Williams.
Ychwanegodd ei fod yn bryderus na fyddai un dwrn yn unig wedi gweithio i dawelu Steven Clark.
Diymadferth
Wrth drafod fideo'r heddwas o'r digwyddiad ar ôl i'r heddwas ei daro, dywedodd Mr Morley fod braich dde Mr Clark yn ddiymadferth a bod yr heddwas wedi symud ei ddwy fraich at ei gilydd.
"Doedd dim ymdrech i ymatal yno nagoedd?" meddai.
"Roedd ei ddwylo yn symud tra'r oeddwn yn gafael o amgylch ei ben, nid oeddwn yn credu ei fod yn anymwybodol," meddai PC Williams.
Gofynnodd Stephen Morley iddo os oedd yn cofio Mr Clark yn dweud "fy mraich, fy mraich", gan hefyd ddweud nad oedd yn gallu anadlu.
Ychwanegodd fod Mr Clark wedi dweud fod PC Williams wedi ei "frifo'n galed iawn", a'i fod wedi torri ei fraich.
Awgrymodd nad oedd yr heddwas wedi ymateb o gwbl i'r datganiadau hyn.
Esboniodd Mr Williams eu bod wedi mynd i'w arestio cyn iddo ymosod ar ei gydweithiwr, a'i fwriad yn wreiddiol oedd rhoi gefynnau amdano o'r tu blaen.
Ychwanegodd ei fod yn deall fod Mr Clark mewn poen ond ei flaenoriaeth oedd ei roi mewn gefynnau.
Gwadodd yr awgrym ei fod wedi disgyn mewn i "drap", a'i fod yn ddall i'r darlun ehangach yn ystod y digwyddiad, cymaint oedd ei fwriad i roi gefynnau am Steven Clark.
Dywedodd Mr Morley wrtho nad oedd dal person o amgylch ei wddf mewn "headlock", gyda'r person hwnnw yn dweud nad oedd yn gallu anadlu, yn ddefnydd rhesymol o rym.
"Roeddwn yn credu ei fod yn rhesymol," atebodd PC Williams, gan ychwanegu ei fod yn anodd i reoli Mr Clark ar y pryd.
Dywedodd hefyd fod chwistrellu Steven Clark gyda hylif i'w dawelu yn gymesur yn y sefyllfa yr oedd ynddi.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.