Pleidleiswyr cefn gwlad Cymru'n rhanedig yn ôl arolwg newydd
Mae pleidleiswyr gwledig Cymru yn rhanedig eu barn gyda cwta 10 wythnos i fynd tan etholiad Senedd Cymru, yn ôl canlyniadau arolwg newydd.
Mae canlyniadau arolwg o 1,000 o bobl yn seddi mwyaf gwledig Cymru yn awgrymu nad oes unrhyw blaid yn cael ei chefnogi gan fwy na chwarter y pleidleiswyr, gyda Phlaid Cymru ar y blaen ar 22.3%.
Roedd Reform UK yn yr ail safle ymhlith pleidleiswyr gwledig ar 16.7%, tra bod y Blaid Werdd wedi codi i 14.5% ar ôl cyflwyno nifer fechan o ymgeiswyr yn etholiad 2021.
Roedd Llafur wedi llithro i'r pedwerydd safle ar 13.5%, er nad yw wedi gwneud yn dda yn draddodiadol yng nghefn gwlad Cymru, tra bod y Ceidwadwyr ar ei hôl hi yn y pumed safle er gwaethaf canlyniad cryf yn yr etholiad diwethaf
Mae canlyniadau'r arolwg, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Tir a Busnesau Gwledig (CLA), hefyd yn awgrymu fod llai na hanner y pleidleiswyr yn credu bod Llafur, Reform neu'r Gwyrddion yn deall neu'n parchu ardaloedd gwledig, tra bod 63% yn ymddiried ym Mhlaid Cymru.
'Yno i'w hennill'
Dywedodd Victoria Bond, cyfarwyddwr CLA Cymru, fod yr arolwg barn wedi dangos nad oedd cefn gwlad Cymru “yn eiddo i unrhyw blaid”.
Dywedodd: “Mae yno i’w hennill. Bydd unrhyw blaid sydd â chynllun ar gyfer cefn gwlad Cymru yn dod o hyd i gefnogaeth.
"Ni fydd hyn yn wir am y rhai sy’n ei thrin fel lle braf i fynd am dro.”
Wrth restru pryderon ynghylch teuluoedd yn cael eu prisio allan o’u pentrefi a busnesau’n cael trafferth gyda chostau cynyddol, dywedodd ei bod hi’n “mynd yn anoddach aros ac yn anoddach adeiladu dyfodol” yng nghefn gwlad.
Ychwanegodd: “Nid yw pobl yn gwrando ar gefn gwlad Cymru. Mae traean o’r wlad yn byw y tu allan i’r dinasoedd, ond mae gormod yn teimlo eu bod wedi’u cau allan o’r penderfyniadau sy’n llunio eu bywydau.”
Daw’r arolwg barn wrth i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, baratoi i annerch cynhadledd wanwyn ei blaid, lle bydd yn cyflwyno etholiad y Senedd fel brwydr uniongyrchol rhwng Plaid a Reform UK.
Mae disgwyl iddo ddweud: “Gyfeillion, i Lafur, mae'r blaid drosodd - ac felly bydd yr etholiad ym mis Mai yn ddewis rhwng dau ddyfodol cyferbyniol.
“Goddefgarwch neu raniad. Cynnydd neu bydredd. Herfeiddiad neu barch. Diwylliant neu anwybodaeth. Dynoliaeth neu ddifaterwch. Plaid neu Reform."
Dywedodd aelod Senedd Reform UK, James Evans, fod Plaid Cymru wedi “galluogi”’r “difrod aruthrol” a wnaeth Llafur i gymunedau ffermio Cymru.