Phil Campbell: Gitarydd Motörhead wedi marw ar ôl cymhlethdodau llawdriniaeth
Clywodd cwest fod gitarydd y grŵp Motörhead, Phil Campbell, wedi marw ar ôl i’w organau fethu yn dilyn llawdriniaethau “angenrheidiol.”
Bu farw’r Cymro, oedd yn gitarydd ar y band roc trwm o 1984 tan 2015, ym mis Mawrth yn 64 oed.
Fe glywodd Llys y Crwner yn St Pancras, Llundain, ddydd Gwener bod Mr Campbell wedi dioddef cymhlethdodau yn sgil llawdriniaethau niferus a bod dim modd atal ei farwolaeth.
Fe gafodd y cerddor o Bontypridd ddau drawsblaniad aren a llawdriniaeth ar ei goluddyn yn ysbyty’r Royal Free yn Llundain yn gynharach eleni.
Clywodd y gwrandawiad ei fod yn arfer goryfed alcohol ond ei fod wedi bod yn sobr am saith mlynedd cyn ei farwolaeth.
Roedd hefyd wedi dioddef o Hepatitis-C, ond clywodd y cwest bod y cyflwr hwnnw wedi cael ei drin.
Er fod yr ail o’r ddau drawsblaniad gafodd y cerddor wedi bod yn llwyddiannus, fe gododd 'na gymhlethdodau pellach.
Cafodd lawdriniaeth ar ei goluddyn a’i symud i adran gofal dwys, ble dirywiodd ei gyflwr yn sydyn.
Bu farw yn yr ysbyty ar 13 Mawrth. Cofnododd y crwner Dr Richard Brittain fethiant organau niferus fel achos ei farwolaeth.
“Fy marn i ydy nad oes dim yma i awgrymu bod modd osgoi ei farwolaeth,” meddai.
Arloeswyr roc trwm
Cafodd Motörhead ei ffurfio yn 1975 gan y gitarydd bas Lemmy - neu Ian Kilmister i roi ei enw iawn - a dreuliodd rhan o’i blentyndod ar Ynys Môn.
Roedd y band yn arloeswyr yn y sîn metal trwm ac fe lwyddon nhw i boblogeiddio’r arddull gydag albymau a chaneuon adnabyddus fel Ace Of Spades (1980).
Ar wahân i Lemmy, Phil Campbell oedd yr aelod mwyaf hirhoedlog o’r band. Aeth ymlaen i recordio a pherfformio gyda’i feibion Todd, Dane a Tyla o dan yr enw Phil Campbell and The Bastard Sons.
Llun: Andreas Lawen, Fotandi, CC BY-SA 3.0, Wikimedia Commons