Perchennog Melin Llynon yn dweud ei fod wedi cael gorchymyn i ail-baentio ar ôl Eisteddfod yr Urdd

Melin Llynon

Mae perchennog hen felin flawd amlwg ar Ynys Môn wedi dweud ei fod wedi derbyn gorchymyn i’w hail-baentio’n wyn yn dilyn Eisteddfod yr Urdd.

Roedd Richard Holt wedi paentio Melin Llynon yn goch, gwyn a gwyrdd er mwyn dathlu Eisteddfod yr Urdd ar yr ynys yn ddiweddar.

Roedd Mr Holt wedi gobeithio cadw’r lliwiau tan ddiwedd yr haf, ond nawr, meddai, mae swyddog cadwraeth Ynys Môn wedi dweud wrtho fod yn rhaid ail-baentio’r adeilad yn wyn cyn gynted â phosibl.

Adeiladwyd Melin Llynon, sy'n adeilad rhestredig, yn 1775 a dyma'r unig felin sydd ar ôl yng Nghymru.

Dywedodd Mr Holt ar y cyfryngau cymdeithasol: “Cawsom gannoedd o negeseuon o ganmoliaeth, gan gynnwys rhai gan wleidyddion uchaf Llywodraeth Cymru.

"Er gwaethaf hyn, pan ffoniais swyddog cadwraeth y Cyngor, cefais wybod bod rhaid paentio’r felin yn ôl cyn gynted â phosibl.

"Cafodd ffurflen gais ei hanfon ataf yn wreiddiol i wneud cais i gadw’r lliwiau’n barhaol gan aelodau eraill o’r Cyngor oherwydd y nifer llethol o geisiadau gan y cyhoedd. Fodd bynnag, gwnaeth y swyddog cadwraeth hi’n gwbl glir na fyddai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

"Gofynnais wedyn a allem o leiaf gadw’r lliwiau dros yr haf, ond roedd yr ateb yn “na” pendant hefyd. 

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru ar ran CADW.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.