'Agor ein diwylliant - nid adeiladu ffensys': Tafwyl yn dathlu 20 mlynedd

Tafwyl

Mae Tafwyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed y penwythnos hwn, ar ôl tyfu o ddigwyddiad bach yng Nghaerdydd i fod yn un o brif wyliau diwylliannol Cymru.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu gan Menter Caerdydd yn 2006, gan ddechrau ar raddfa fach y tu allan i'r Mochyn Du ym Mhontcanna.

Ers hynny, mae wedi tyfu i ddenu degau o filoedd o ymwelwyr i'r brifddinas bob blwyddyn.

Eleni, bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd ar gyfer ei dathliadau pen-blwydd.

Dywedodd Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd,  wrth Newyddion S4C ei fod yn "rhyfeddol" gweld pa mor bell mae'r ŵyl wedi dod mewn dau ddegawd.

"Mae'n rhyfeddol ei bod hi wedi dod yn ŵyl genedlaethol ar raddfa eang iawn mewn cyfnod weddol fyr," meddai.

"Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith bod yr ŵyl wedi tyfu.

Image
Tafwyl 2022
Y dorf yn ystod Tafwyl 2022 - y tro diwethaf iddo gael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd (Llun: FfotoNant)

"Mae'r ffaith ei bod hi'n ŵyl sy'n parhau yn gynhwysol ac yn torri tir newydd a'r pwyslais ar dynnu pobl at y Gymraeg.

"Nid adeiladu ffensys a ffiniau o gwmpas ein diwylliant ni yw pwrpas Tafwyl ond agor ein diwylliant ni a chroesawu pobl sy'n dymuno bod yn rhan o hwnna."

Yn ôl yn y castell

Bydd Tafwyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Yn ôl Mr Rees, mae dychwelyd i'r castell yn arbennig wrth nodi 20 mlynedd ers sefydlu'r ŵyl.

"Mae lot o bobl yn dweud bod nhw'n hoffi'r syniad o fod yn y castell a bod e'n rhywbeth eithaf symbolaidd," meddai.

"Dwi'n meddwl bod y castell yn dod â rhyw statws iddo fe a rhyw urddas iddo fe."

Er bod Tafwyl yn dychwelyd i'r castell eleni, dywedodd Mr Rees nad oes sicrwydd eto ble fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn y dyfodol.

Dywedodd fod trefnu lleoliad yr ŵyl yn "jig-so eithaf cymhleth", wrth i Gaerdydd gynnal nifer cynyddol o ddigwyddiadau byw dros yr haf.

"Mae trafodaethau ynglŷn â gofod addas yn digwydd rhyngddon ni a'r cyngor yn flynyddol," meddai.

"Yr un peth fydd hi eto flwyddyn nesaf am wn i, a dim sicrwydd eto ble fydd safle Tafwyl yn 2027."

Eleni, bydd Tafwyl hefyd yn defnyddio rhywfaint o'r seilwaith sydd eisoes wedi ei osod yn y castell ar gyfer cyfres o gyngherddau haf Depot Live.

Mae hynny'n cynnwys y prif lwyfan, sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau mawr yn ystod yr haf.

"Mae'n mynd i fod yn lwyfan anferthol ac yn adnodd falle fyddwn ni wedi medru fforddio ffordd arall," meddai.

"Odd MIKA yn perfformio ar y llwyfan nos Wener dwetha, fydd Alice Cooper mewn ychydig o wythnosau, a Candelas penwythnos yma."

Image
Llwyfan Depot
Y prif lwyfan yng Nghastell Caerdydd, sydd wedi ei osod ar gyfer cyfres o gyngherddau’r haf ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gan Tafwyl dros y penwythnos (Llun: DEPOT Live)

"Prin bydd bandiau wedi cael y cyfle i berfformio ar lwyfan mor fawr â llwyfan Tafwyl eleni."

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio dros y penwythnos mae Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Meinir Gwilym, Al Lewis, Gwilym, Buddug, Cordia a Sage Todz.

Bydd y dathliadau'n dod i ben gyda Parti Dathlu 20 nos Sul.

Eleni hefyd, mae'r ŵyl wedi cyflwyno Tocyn Aur am y tro cyntaf, gyda'r tocynnau i'r platfform gwylio arbennig wedi gwerthu allan.

Llwyfan i artistiaid newydd

Dywedodd Efan Williams, prif leisydd y band Dadleoli, fod Tafwyl wedi chwarae rhan bwysig yn ei ddatblygiad fel cerddor.

"Roedd bod yn rhan o brosiect Yn Cyflwyno gyda Dadleoli yn 2022 yn foment bwysig iawn i mi fel cerddor ifanc," meddai.

"Fe roddodd y profiad hyder a chyfleoedd newydd i mi.

Image
Dadleoli yn perfformio yn Tafwyl
Bydd Efan Williams o'r band Dadleoli ymhlith yr artistiaid fydd yn rhan o Barti Dathlu 20 i gloi Tafwyl nos Sul (Llun: Ceirios Photography)

"Ers hynny, mae wedi bod yn wych gweld Tafwyl yn parhau i dyfu a datblygu.

"Mewn ffordd, rydw i wedi tyfu ochr yn ochr â'r ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae cael bod yn rhan o'r dathliadau wrth i Tafwyl droi'n 20 yn teimlo'n arbennig iawn."

Dywedodd Bethan Jones-Ollerton, trefnydd Tafwyl, ei bod yn falch o'r gymuned sydd wedi datblygu o amgylch yr ŵyl dros y ddau ddegawd diwethaf.

"Wrth edrych yn ôl dros 20 mlynedd Tafwyl, rydym yn hynod falch o'r gymuned sydd wedi tyfu o amgylch yr ŵyl," meddai.

"Bydd dychwelyd i Gastell Caerdydd ar gyfer y dathliadau hyn yn arbennig iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o bobl i ddathlu gyda ni."

Bydd mynediad am ddim i'r ŵyl unwaith eto eleni.

Heriau'r dyfodol 

Dywedodd Mr Rees fod costau cynnal digwyddiad o'r maint hwn yn parhau i gynyddu.

"Mae'n her gynyddol bob blwyddyn," meddai.

"Mae cost isadeiledd ac yn y blaen yn cynyddu'n syfrdanol bob blwyddyn."

Ychwanegodd mai'r bwriad yw parhau i gadw Tafwyl yn ŵyl am ddim cyn belled â bod cefnogaeth partneriaid a noddwyr yn parhau.

Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig bod Tafwyl yn cydweithio â gwyliau eraill, yn hytrach na sefyll ar wahân.

“Mae cael rhwydwaith o gigs i fandiau, a phwrpas i fandiau gyfansoddi a pherfformio’n Gymraeg, yn allweddol,” meddai.

“Gobaith ni yw ein bod ni’n cefnogi gwyliau eraill ac yn cydweithio gyda nhw.”

Bydd uchafbwyntiau o Tafwyl hefyd i’w gweld ar S4C dros y penwythnos.

Bydd rhaglenni o uchafbwyntiau dydd Sadwrn a dydd Sul yn cael eu darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 20:00 ar 20 a 21 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.