Pentre-moch: Cefnogi adfer enw Cymraeg ar bentref yn Sir y Fflint
Ni ddylid di-ystyried enwau llefydd Cymraeg hanesyddol, yn ôl un cynghorydd yn Sir y Fflint sydd yn cefnogi cynnig i adfer hen enw Cymraeg ar bentref yn y sir.
Wedi i Gyngor Cymuned Northop Hall wneud cais swyddogol i adnabod Pentre-moch fel enw Cymraeg ffurfiol ar y pentref, mae disgwyl i Gyngor y Sir fabwysiadu’r enw mewn cyfarfod o’r cabinet yr wythnos nesaf.
Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn ag enw Cymraeg i'r pentref, sydd â phoblogaeth o tua 1,600, cafodd sawl opsiwn eu trafod.
Ymhlith y cynigion roedd cyfieithiad uniongyrchol o Northop Hall, sef Neuadd Llaneurgain.
Yn ystod trafodaeth mewn cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y cyngor ddydd Iau, dywedodd Ymgynghorydd Polisi Strategol yr awdurdod, Fiona Mocko, bod “llawer o drigolion” yn adnabod y pentref fel Pentre-moch.
“Rydym yn gwybod bod Pentre-moch wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer ar gyfer Northop Hall yn anffurfiol, yn lleol," meddai.
“Rwyf wedi deall bod pobl wedi cofrestru tystysgrifau geni dwyieithog lle mae Pentre-moch wedi cael ei ddefnyddio fel ffurf Gymreig ar gyfer Northop Hall, ac mae hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae cofrestrydd yn defnyddio Pentre-moch yn awtomatig fel ffurf Gymreig ar Northop Hall, oherwydd ei fod mor adnabyddus fel y ffurf Gymraeg."
Ychwanegodd: “Bydd mabwysiadu Pentre-moch fel y ffurf Gymraeg ar gyfer Northop Hall yn cefnogi ein strategaeth hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Yn amlwg, bydd yn codi proffil y Gymraeg.
“Bydd yn cynyddu hunaniaeth Gymraeg Northop Hall ac yn rhoi cyfleoedd i fwy o bobl ddefnyddio Pentre-moch fel y ffurf swyddogol ar gyfer Northop Hall. Bydd gan drigolion ddewis o ddefnyddio naill ai Northop Hall neu Bentre Moch.”
'Pryderus'
Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby na ddylid defnyddio cyfieithiad ar gyfer enw, ar draul enw hanesyddol.
“Mae’r enw’n gywir yn hanesyddol,” meddai.
“Mae’n eithaf diddorol darllen rhywfaint o’r hanes cefndir sydd yn yr adroddiad. Mae ganddo gefnogaeth y cyngor cymuned.
“Un peth yn unig y byddwn i’n ei nodi sydd ychydig yn bryderus yw bod ystyriaeth wedi’i rhoi i enwau eraill yn ystod y broses, sef y cyfieithiad Cymraeg o’r Saesneg yn unig. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n addas.
“Mae Neuadd Llaneurgain wedi’i awgrymu. Rwy’n credu bod gan enwau lleoedd lawer o hanes y tu ôl iddynt a bod angen iddynt fod wedi’u seilio, mewn gwirionedd, ar gywirdeb hanesyddol, nid ein bod ni’n creu enwau lleoedd dim ond i gyfieithu naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg.
“Mae ganddyn nhw hanes sy’n mynd yn ôl canrifoedd mewn llawer o achosion, felly rwy’n cefnogi’r adroddiad yn llwyr ac yn cynnig yr argymhelliad yn ffurfiol.”
Fe benderfynodd aelodau’r pwyllgor o blaid cefnogi’r cais.
Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn cyfarfod o gabinet y cyngor ddydd Mawrth 14 Gorffennaf.
Hanes yr enw
Mae’r enw Cymraeg ‘Pentre-moch’ am Northop Hall wedi cael ei ddefnyddio gan genedlaethau o bentrefwyr, ond erioed wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol.
Daeth y cynnig i fabwysiadu’r enw’n ffurfiol yn dilyn cais gan Gyngor Cymuned Northop Hall,
Cafodd y cynnig ei gefnogi gan adroddiad gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, sydd yn datgan y byddai defnyddio’r enw ar y cyd gyda’r enw Saesneg yn adlewyrchu cynnydd yn y defnydd o ‘Pentre-moch’.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1910415925141971275?s=20
Cafodd y pentref ei ddatblygu ger plasty Northop Hall, o amgylch fferm o’r enw Pentre Moch. Mae erthyglau papur newydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cyfeirio at y pentref gyda’r enw hwn.
Dywedodd adroddiad y panel bod ‘Pentre-moch’ wedi cael ei ddefnyddio ers hynny a hyd heddiw, a gellir ei ganfod ar wefannau hanes lleol, yn y wasg, ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r adroddiad yn cydnabod bod enwau Cymraeg eraill ar gyfer y pentref wedi cael eu defnyddio dros y blynyddoedd, yn bennaf oherwydd awydd i ganfod enw mwy “parchus” na ‘Pentre-moch’.
Serch hynny, mae’n pwysleisio bod yr enw’n ddisgrifiadol, yn hytrach na’n ddirmygus, gan ychwanegu nad oes gan enwau eraill yr un sail hanesyddol â ‘Pentre-moch’, nac ychwaith wedi ennill ei blwyf yn yr un ffordd.
Mae nifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn cynnwys ‘moch’, megis ‘Mochdre’, meddai.