Penodi cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru ar adeg 'dyngedfennol'

Lyndon Faulkner

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru mai dyn busnes sy'n hanu o Gasnewydd, Lyndon Faulkner yw eu cadeirydd newydd. 

Bydd y Cymro yn dechrau ar ei swydd erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb, fydd yn cael ei gynnal ddydd Sul 22 Tachwedd.

Nododd yr Undeb eu bod wedi chwilio ledled y byd am ymgeisydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol i arwain Bwrdd yr Undeb ar adeg "hynod dyngedfennol i'r gamp yng Nghymru."

Mae'n olynu Richard Collier-Keywood a gyhoeddodd fis Mawrth y byddai'n gadael ei swydd ym mis Gorffennaf, wrth i'w dymor ddod i ben.

Dan y lach

Yn ystod diweddd ei gyfnod roedd Mr Collier-Keywood o dan y lach yn sgil cynlluniau dadleuol, sy'n dal i wynebu gwrthwynebiad chwyrn.  

Cyhoeddodd yr Undeb ym mis Hydref 2025 eu bod eisiau cwtogi nifer y clybiau proffesiynol yng Nghymru o bedwar rhanbarth i dri yn rhan o broses ailwampio sylweddol.

Mae'r undeb eisiau un rhanbarth yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd ac un yn y gorllewin, gyda'r corff llywodraethol yn credu bod y cyllid wedi'i wasgaru'n rhy denau ar hyn o bryd.

Mae'r Undeb yn mynnu nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy yn ariannol nac yn darparu canlyniadau cyson ar y cae. 
 
A'r cynnig ydy bod y model newydd yn dechrau yn nhymor 2028/29 ar ôl cyfnod pontio o ddwy flynedd.
 

'Braint'

Wrth ymuno â'r undeb yng nghanol y trafodaethau hynny, dywedodd Lyndon Faulkner ei fod yn edrych ymlaen at yr her: "Rwy'n gwybod o brofiad personol pa mor bwysig yw rygbi Cymru i'r genedl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

"Felly, mae'n fraint aruthrol i mi gael fy mhenodi’n Gadeirydd ar yr Undeb ac fy mwriad yw rhoi rhywbeth yn ôl i gamp sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy natblygiad fel unigolyn, ac sy'n golygu cymaint i mi, fy nheulu, fy ffrindiau a phobl Cymru.

"Mae’r ffaith bod y broses gyfweld wedi bod mor drylwyr ac agored wedi rhoi hyder mawr i mi. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â'r clybiau ac aelodau eraill yr Undeb yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd.

"Byddaf yn gwrando arnyn nhw a phrif randdeiliaid eraill rygbi Cymru sy’n gwasanaethu’r gêm gymunedol a phroffesiynol ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu ganddyn nhw dros yr wythnosau nesaf.

"Mae hon yn adeg dyngedfennol i'r gamp. Byddaf yn gwrando ar bobl a byddaf yn bendant yn parhau i fod yn agored i heriau adeiladol, dilys ac ymarferol."

Prif gyfrifoldeb Mr Faulkner fel Cadeirydd annibynnol newydd Undeb Rygbi Cymru fydd parhau i arwain y Bwrdd wrth bennu cyfeiriad strategol y gêm yng Nghymru, a sicrhau bod tîm gweithredol yr Undeb a’r staff yn gyfrifol ac atebol am roi'r strategaeth honno ar waith.

Yn ôl yr undeb, bydd yn neilltuo cryn dipyn o’i amser bob wythnos i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol fel Cadeirydd, a bydd hefyd yn cynrychioli Undeb Rygbi Cymru fel llysgennad o’r radd flaenaf yn y byd rygbi rhyngwladol.

Dywedodd Is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, John Manders: "Ry’n ni wrth ein bodd gallu cadarnhau penodiad Lyndon a’i groesawu atom i arwain Bwrdd Undeb Rygbi Cymru.

"Mae llwyddo i ddenu unigolyn o safon mor uchel, sydd â phrofiad busnes mor amlwg ac sydd hefyd â chysylltiadau mor gryf â threftadaeth rygbi Cymru, yn gamp arbennig. Mae hefyd yn cadarnhau pa mor drylwyr ac effeithiol oedd ein proses benodi."

Cafodd Lyndon Faulkner ei eni ger Casnewydd ac fe dderbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Basaleg. Chwaraeodd rygbi i'r ysgol cyn ymuno â thîm ieuenctid Casnewydd. 

Chwaraeodd dros dîm cyntaf Casnewydd cyn ymuno â Phont-y-pŵl yn ystod un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus y clwb.

Yn ogystal â chynrychioli ei sir ar sawl achlysur, chwaraeodd hefyd yn y Gynghrair Eingl-Gymreig ac hefyd yn erbyn tîm teithiol cenedlaethol Awstralia.

Bu’n rhaid iddo ymddeol o’r gamp yn gynnar o ganlyniad i anaf i’w ben ac fe aeth ymlaen i fyd busnes. 

Dyn busnes

Chwaraeodd Lyndon Faulkner ran allweddol wrth gyflwyno technolegau chwyldroadol newydd fel y Cryno Ddisg (CD) a'r Ddisg Fideo Ddigidol (DVD) i'r diwydiannau cerddoriaeth, cyfrifiaduron a ffilmiau.

Ac fe chwaraeodd ran wrth gyhoeddi cynnyrch fel Windows XP a Microsoft Office 2000.

Ymddangosodd hefyd yn y gyfres deledu Americanaidd ‘The Mentor’, ac mae wedi darlithio yn Ysgol Fusnes Prifysgol Stanford ac Ysgol Fusnes Darden ym Mhrifysgol Virginia, yn yr Unol Daleithiau. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Lyndon aton ni i Undeb Rygbi Cymru.

"Mae sefydlu perthynas waith rhwng Prif Weithredwr a Chadeirydd, sy'n sicrhau'r cydbwysedd cywir o safbwynt herio a chefnogi, yn hanfodol mewn unrhyw sefydliad er mwyn sicrhau cynnydd cadarnhaol a chynnal diwylliant iach a blaengar.

"Rwy'n gwybod bod Lyndon a minnau'n barod i ffurfio tîm cryf ac effeithiol fydd yn datblygu rygbi Cymru ar bob lefel."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.