Penderfynu cau ysgolion yng Nghaerdydd wedi bygythiadau

Ysgol Uwchradd y Dwyrain / Ysgol Uwchradd Llanisen

Mae dwy o ysgolion uwchradd Caerdydd ar gau ddydd Llun, wrth i Heddlu De Cymru ymchwilio i wybodaeth ddaeth i law swyddogion nos Sul.

Yn ôl y llu, daeth penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac Eastern High School fel cam diogelwch tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Cyhoeddodd yr heddlu brynhawn Llun fod gwybodaeth wedi dod i law am 20:30 nos Sul yn ymwneud â bygythiadau ar-lein. 

Mae'n ymddangos fod unigolyn yn bwriadu mynd i'r ysgolion gydag arfau, yn ôl y llu.   

Mae'r heddlu'n dweud fod ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal er mwyn asesu pa mor gredadwy oedd y bygythiad, ac o le yn union y daeth. 

Maen nhw'n pwysleiso nad oes tystiolaeth fod unrhyw un wedi mynd i'r ysgolion dan sylw yn ymddwyn yn fygythiol. 

Daeth penderfyniad i gau'r ysgolion wedi trafodaethau rhwng yr heddlu a Chyngor Caerdydd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark Kavanagh: "Rydyn ni wedi dod i'r penderfyniad, gyda chefnogaeth gan Gyngor Caerdydd, i gadw'r ysgolion hyn ar gau ddydd Llun er mwyn atal unrhyw risg. Daw hyn yn dilyn gwybodaeth a gafodd ei roi i'r heddlu nos Sul."

Ychwanegodd fod yr heddlu yn ymchwilio ac nad oedd y penderfyniad wedi ei wneud "ar chwarae bach" ond eu bod wedi meddwl am "ddiogelwch y disgyblion, y staff a chymunedau ehangach yr ysgol". 

Bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn ardaloedd y ddwy ysgol wrth i'r ymchwiliad barhau. 

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn deall fod hyn yn achosi pryder i rieni a'r gymuned, ond ei bod yn bwysig iddyn nhw gynnal ymchwiliad llawn.     

 


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.