Dathlu pen-blwydd Mistar Urdd yn 50 oed drwy ail-recordio ei gân
Mae un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru, Mistar Urdd, yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 eleni.
Ac fel rhan o’r dathliadau, mae fersiwn newydd o’i gân eiconig, ‘Hei Mistar Urdd!’ wedi cael ei rhyddhau ar Recordiau Sain.
Mae’r trac, sydd wedi’i ail gyfansoddi gan Morgan Elwy, yn serennu’r gantores Aleighcia Scott, gyda’r artistiaid Dom James a Lloyd yn ychwanegu elfennau rap cyfoes, a Mared Williams yn cyfrannu lleisiau cefndirol.
Dywedodd Aleighcia Scott: “Fel dysgwr Cymraeg, rwy’n caru’r gwaith mae’r Urdd yn ei wneud i ysbrydoli plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac mae wedi bod yn bleser dathlu’r iaith drwy’r gân hon.
“Roedd recordio yn stiwdio eiconig Sain yn brofiad arbennig, ac roedd hi’n wych gweithio gyda grŵp o gerddorion i ail-ddychmygu cân sy’n golygu cymaint i gymaint o bobl.”
Fe gafodd y fersiwn wreiddiol ei recordio gan Geraint Davies gyda label Sain yn Llandwrog bron i 50 mlynedd yn ôl yn 1977.
Dywedodd Prif Weithredwr Sain, Kev Tame ei fod yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Urdd am flynyddoedd i ddod.
“Mae bob amser yn bleser cydweithio gyda’r Urdd, ac mae’n fraint cael gweithio mewn partneriaeth ar fersiwn ddiweddaraf o’u hanthem,” meddai.
'Symbol o obaith'
Fe gafodd cymeriad coch, gwyn a gwyrdd Mistar Urdd ei greu gan Wynne Melville Jones, neu Wyn Mel, yn 1976.
Fel Swyddog Cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd, roedd yn ceisio apelio at bobl ifanc Cymru, a hynny drwy ychwanegu wyneb, breichiau a choesau at logo trionglog y mudiad.
“Cefais y cyfle i ddatblygu syniadau newydd i'r Urdd er mwyn apelio at genhedlaeth newydd o ieuenctid, a 50 mlynedd yn ddiweddarach mae Mistar Urdd yn dal i fod yn ffefryn gan blant a phobl ifanc y wlad,” meddai Wyn Mel.
“Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon i'r holl waith caled dalu ar ei ganfed, ac erbyn heddiw mae'r Urdd yn cael ei gydnabod fel un o fudiadau ieuenctid gorau’r byd.”
Dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis: “Dros y degawdau mae Mistar Urdd wedi teithio i'r gofod, helpu’r Urdd i dorri Record Byd ar achlysur canmlwyddiant y mudiad, cyfarch arlywyddion a phrif weinidogion a bellach yn enw ar drên newydd sbon.
“Mae’r cymeriad wedi datblygu i fod yn symbol o obaith ac yn cynrychioli’r cyfeillgarwch, hwyl a balchder rydym ni fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn ei rannu gyda phlant a phobl ifanc ledled y wlad.”
Blwyddyn o ddathlu
Fe fydd Urdd Gobaith Cymru bellach yn cychwyn blwyddyn o ddathlu Mistar Urdd gydag amrywiaeth o weithgareddau gwahanol.
Bydd murlun arbennig yn cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth ar 25 Chwefror, tref sydd yn gartref i bencadlys cyntaf yr Urdd.
Mae yna gynlluniau i Aleighcia Scott ymweld ag Ysgol Gynradd Plascrug ac Ysgol Gynradd Aberystwyth yn gynharach y dydd, lle bydd hi’n sgwrsio gyda disgyblion Blwyddyn 5 am y broses greadigol o ail-recordio cân ‘Hei Mistar Urdd!’.
Fe fydd y gantores wedyn yn perfformio’n fyw y tu allan i safle’r murlun gyda chymorth Cronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan ei bod yn “wirioneddol galonogol” gweld Mistar Urdd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yng Nghymru.