Pen-y-bont: Dyn i ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio menyw 47 oed

Eleanor Barnfield

Mae disgwyl i ddyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio gweithwraig cymdeithas dai a fu farw ar ôl gwrthdrawiad car yn ne Cymru ymddangos yn y llys ddydd Gwener.

Fe wnaeth Eleanor Barnfield, 47, farw yn yr ysbyty ar ôl i’w char daro wal ar Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr brynhawn Llun.

Roedd Heddlu De Cymru wedi dweud yn gynharach bod Ms Barnfield wedi dioddef anafiadau nad oeddent yn ganlyniad i’r gwrthdrawiad.

Mae Clifford Foster, 61, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd yn ddiweddarach heddiw.

Daw’r cyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl “ymgyrch blismona sylweddol” o amgylch Ger-y-Nant, sy’n cael ei reoli gan gymdeithas dai Valleys to Coast, lle’r oedd Ms Barnfield yn gweithio.

Yn ôl proffil ar-lein o Ger-y-Nant, mae’r safle’n cynnwys 13 o fflatiau cysgodol (sheltered) ac ymddeol ac yn derbyn preswylwyr newydd sy’n 60 oed neu’n hŷn.

Wrth roi teyrnged iddi mewn datganiad drwy’r heddlu ddydd Mercher, dywedodd teulu Ms Barnfield: “Mam oedd y person caredicaf, mwyaf cariadus a dewraf yn y byd.

“Roedd hi’n bopeth i ni a bydd ei theulu a’i ffrindiau ffyddlon yn ei charu am byth ac yn gweld ei heisiau’n fawr. Hi oedd ein craig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.