Pen-y-bont: Dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn byw mewn fflatiau lle roedd hi'n gweithio

Clifford Foster

Mae llys wedi clywed fod dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio aelod o staff cymdeithas dai yn byw mewn adeilad lle'r oedd y ddioddefwraig honedig yn gweithio.

Fe wnaeth Clifford Foster, 61 oed, ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener, wedi’i gyhuddo o lofruddio Eleanor Barnfield, 47 oed.

Bu farw Ms Barnfield yn yr ysbyty ar ôl i’w char daro wal ar Ffordd Coity ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun. 

Roedd hi wedi dioddef anafiadau trywanu nad oeddynt wedi’u hachosi yn y gwrthdrawiad.

Daeth y penderfyniad i gyhuddo Foster yn dilyn “ymgyrch sylweddol” gan  yr heddlu o amgylch ardal Ger-y-Nant ym Mhen-y-bont. 

Mae adeilad yno yn cael ei reoli gan gan y gymdeithas dai Valleys to Coast.

Dyma lle roedd Ms Barnfield yn gweithio a lle roedd Mr Foster yn byw.

Image
Eleanor Barnfield
Eleanor Barnfield

Fflatiau

Yn ôl disgrifiad o'r adeilad ar-lein, mae adeilad Valleys to Coast yn cynnig cartref cysgodol ('sheltered housing') a chartref i'r rhai sydd wedi ymddeol.

Mae'n cynnwys 13 fflat sydd yn cael ei reoli gan staff nad ydynt yn byw ar y safle, ac mae’n derbyn preswylwyr newydd sy’n 60 oed neu’n hŷn.

Yn ystod y gwrandawiad llys ddydd Gwener, fe siaradodd Foster i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad.

Ni chafodd gais i gynnig ple.

Dywedwyd wrtho y byddai'n ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun ar gyfer gwrandawiad ple a pharatoi ar gyfer achos llys.

Wrth annerch Foster, dywedodd yr ynad Barbara Williams: “Dim ond yn Llys y Goron y mae modd gwrando ar yr achos hwn... rydym yn anfon y materion hyn i Lys y Goron Caerdydd ar gyfer gwrandawiad ar 26 Hydref.”

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Teyrnged teulu

Wrth roi teyrnged iddi mewn datganiad drwy’r heddlu ddydd Mercher, dywedodd teulu Ms Barnfield: “Mam oedd y person caredicaf, mwyaf cariadus a dewraf yn y byd.

“Roedd hi’n bopeth i ni a bydd ei theulu a’i ffrindiau ffyddlon yn ei charu am byth ac yn gweld ei heisiau’n fawr. Hi oedd ein craig.”

Mae llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi disgrifio adroddiadau am oedi cyn i ambiwlans gyrraedd lleoliad y gwrthdrawiad lle cafwyd hyd i Eleanor Barnfield fel rhywbeth sydd “ddim yn wir yn ffeithiol” ac yn “sïon camarweiniol”.

Ychwanegodd y llefarydd: “Yn dilyn ymchwiliadau rhagarweiniol gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, nid yw’r Ymddiriedolaeth wedi gallu dod o hyd i unrhyw alwadau o rifau ffôn Eleanor Barnfield.

“Mae ymholiadau’n parhau i weld a gafwyd unrhyw alwadau drwy ddulliau eraill.”

Dywedodd Jo Oak, Prif Weithredwr cymdeithas dai Valleys to Coast yn dilyn marwolaeth Ms Barnfield: “Rydym wedi’n chwalu gan farwolaeth drasig ein cydweithiwr, Eleanor Barnfield.

“Roedd Eleanor yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Valleys to Coast, ac mae ei cholli wedi effeithio’n ddwfn ar bawb a oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio ochr yn ochr â hi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.