Peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer parc cenedlaethol yn y gogledd-ddwyrain am y tro

Dafydd Trystan Davies

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer parc cenedlaethol yn y gogledd-ddwyrain am y tro.

“Ni fydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd,” meddai’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.

Ond dywedodd yn y Senedd ei fod eisiau bod yn “glir” nad oedd hwn yn “benderfyniad terfynol”.

“Rydw i am roi cyfle byr i bawb sydd â diddordeb i ymateb ar sail y penderfyniad dros dro ydw i wedi ei gymryd,” meddai.

Fe fyddai Parc Cenedlaethol Glyndŵr' wedi ymestyn o Brestatyn ar yr arfordir, ar draws Sir Ddinbych, trwy Sir y Fflint, Wrecsam ac i lawr i ogledd Powys.

Roedd creu y parc yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur yn 2021, ond roedd pob un o’r pum cyngor o fewn ei ffiniau wedi mynegi amheuon am y cynllun.

Fe fyddai wedi golygu bod rhai penderfyniadau cynllunio yn cael eu trosglwyddo i awdurdod y parc.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ‘Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr’ ym mis Ionawr, gan amcangyfrif costau sefydlu o tua £11.6 miliwn.

Roedd CNC wedi cyflwyno’r holl wybodaeth i’r Llywodraeth flaenorol iddi ystyried y dystiolaeth.

Fe wnaeth y llywodraeth flaenorol gyhoeddi ym mis Mawrth y byddai’n cynnal ymchwiliad cyhoeddus ar y pwnc.

Wrth ymateb ddydd Mawrth dywedodd Llafur Cymru eu bod nhw'n "siomedig" gyda'r penderfyniad.

Dywedodd llefarydd Llafur Cymru ar yr Amgylchedd, Vikki Howells: “Mae hwn yn benderfyniad siomedig a gwan gan Lywodraeth Plaid Cymru sy’n rhanedig ar faterion amgylcheddol.

“Llafur Cymru wnaeth osod y sylfeini ar gyfer sefydlu Parc Glyndŵr, ond mae Plaid Cymru yn rhoi stop ar greu parc cenedlaethol newydd cyntaf Cymru ers saith degawd.

“Mae pobl eisiau llywodraeth unedig, ond mae’r rhaniadau o fewn Plaid Cymru ar faterion gwyrdd yn rhwystro cynnydd ac yn dal Cymru yn ôl.”

Mae ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy eisoes wedi ei dynodi’n ardal o ‘harddwch naturiol eithriadol’.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.