Pedwar aelod o staff yn achub bywyd cydweithwraig yn Ysgol Gymraeg Caerffili

Pedwar aelod o staff yn achub bywyd cydweithwraig yn Ysgol Gymraeg Caerffili

Mae pedwar aelod o staff Ysgol Gymraeg Caerffili, a achubodd fywyd cydweithwraig ar ôl iddi gael strôc, yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwybod sut i ddefnyddio diffibriliwr.

Cafodd Ceinwen Goldsworthy strôc tra'n gweithio yn yr ysgol ar 5 Tachwedd y llynedd. 

Fe wnaeth Eleri Jones, Emma Powell, Amie Sullivan ac Angharad Vaughan ei chadw hi'n fyw wrth iddyn nhw aros am gymorth gan y gwasanaethau brys. 

"Nath yr ysbyty dweud hefyd heb beth wnaethon ni byddai hi ddim yma nawr," meddai Emma Powell wrth Newyddion S4C.

Fe ddechreuodd Ms Goldsworthy deimlo yn sâl yn y prynhawn gyda chur pen ac fe aeth Amie Sullivan i nôl paracetamol iddi. 

"Dyna oedd y tro dwetha i fi weld hi cyn i bopeth ddigwydd," meddai Ms Sullivan.

"Aeth hi syth fewn i'r dosbarth ac a'th hi i estyn diod o ddŵr a dyna ble ddechreuodd pethau wedyn."

Roedd Emma Powell mewn dosbarth yn dysgu a daeth plentyn mewn i ddweud fod Ms Goldsworthy yn galw amdani hi mewn ystafell arall. 

Fe aeth Ms Powell i afael yn ei llaw ond fe ddechreuodd sylwi ar ei chyflwr hi'n gwaethygu, gan redeg i'r swyddfa i chwilio am gymorth. 

Image
Ceinwen Goldsworthy ac Emma Powell
Ceinwen Goldsworthy ac Emma Powell.

"Dywedais bo' fi angen help yn syth, ma' rhywbeth yn bod gyda Ceinwen, felly gafodd cymorth cyntaf ei alw dros y tannoy ac erbyn i fi gyrraedd nôl, roedd Angharad yn yr ystafell gyda hi," meddai. 

Dywedodd Angharad Vaughan: "O'n i'n gwybod yn syth fod rhywbeth yn bod.

"Na'th hi ddechrau dweud nad oedd hi'n gallu symud ei braich so o'n i'n meddwl ma' hwn yn sowndio fel strôc so naethon ni alw 999 yn syth."

Ond roedd cyflwr Ms Goldsworthy yn parhau i waethygu ac fe wnaeth y staff ffonio 999 unwaith yn rhagor gan gael cyfarwyddiadau gan y gwasanaethau brys dros y ffôn.

Cafodd Ms Goldsworthy ei rhoi yn yr ystum adfer (recovery position) gan y staff, ac fe gyrhaeddodd pennaeth yr ysgol, Eleri Jones, yr ystafell. 

"Oedd Amie wedi rhedeg i nôl y defib, a nethon ni jyst dechre yn syth, o'n i'n gwybod yn syth fod pethau yn ddifrifol iawn, iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

Ychwanegodd Emma Powell: "Oedd Angharad ac Eleri ar y defib ac yn gwneud CPR."

'Pwysigrwydd cael defib ar y safle'

Mae'r pedair yn teimlo fod angen codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwybod sut i ddefnyddio deffibrilwyr yn gyffredinol. 

"Ni yn meddwl dylse pob aelod o staff gael rhyw fath o gymorth cyntaf. Yn amlwg pryd es i ar gwrs doeddwn ni byth yn disgwyl rhywbeth fel hyn i ddigwydd. Ond lwcus na'th nhw mynd trwy CPR a pethau pryd es i," meddai Angharad Vaughan.

"Oedd gen i ryw fath o syniad o symptomau o'r strôc a pethau. Wnes i cyrraedd o'n i jyst fel, "O, dyw rhywbeth ddim cweit yn iawn fan hyn" 

"A jyst y pwysigrwydd o gael defib ar y safle. O'n i'n ffodus iawn, oedd un ar y safle."

Dywedodd Amie Sullivan: "A staff i wybod ble oedd hynny hefyd. Oedd hwnna'n hollbwysig, gwybod ble i gasglu hynny. Ma' nhw'n egluro'n union beth i neud wrth i chi agor popeth i fyny. Ond y ffaith roedd gennym ni hynny ar y safle nath y gwahaniaeth."

Ychwanegodd Eleri Jones: "Byswn i bendant yn annog cymaint o gwmnïau, ysgolion sy'n gallu i gael defib ar y safle ond hefyd i unigolion i wybod ble mae'r defib agosaf i'w cartref nhw, i'w gwaith nhw, yn y gymuned ac yn y blaen."

Image
Angharad a Ceinwen
Angharad Vaughan a Ceinwen Goldsworthy.

Bu'n rhaid i'r pedair ofalu am Ms Goldsworthy am 90 munud tra'n aros am y gwasanaethau brys. 

Erbyn heddiw, mae Ms Goldsworthy yn gwella, ond mae ei chyflwr yn parhau’n ddifrifol.

"Buodd hi'n yr ysbyty am sbel hir, doedd hi ddim adre' dros y Nadolig ... dyw hi ddim yn gallu cerdded heb gymorth felly mae hi wedi gwella ond mae taith hir o'i blaen hi," meddai Eleri Jones. 

Mae'r pedair bellach wedi derbyn gwobr am yr hyn wnaethon nhw wrth achub bywyd eu cydweithiwr a'u ffrind. 

"Na'th aelod o staff ysgrifennu llythyr i'r Royal Humane Society a nethon ni gyd dderbyn tystysgrif wedyn," meddai Angharad Vaughan. 

"Pryd nath y digwyddiad ddigwydd, doeddwn i ddim yn teimlo yn falch o fy hun ond edrych yn ôl nawr, fi'n meddwl fi'n falch o fy hun a phawb arall."

Ychwanegodd Amie Sullivan: "I gyd oedd angen i ni neud oedd camu fyny i gefnogi hi a dyna nethon ni ar y diwrnod."

"Nath e bwrw fi ar fore Nadolig na'th fy mab 11 oed ddeffro a'r peth cyntaf un nath e 'weud oedd 'Mam, mae teulu yn gallu dathlu'r Nadolig heddiw gyda'u Mam nhw oherwydd ti'," meddai Eleri Jones. 

"A fi'n cofio meddwl 'Waw, pryd 'ny nes i sylweddoli peth mor fawr nathon ni wneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.