Parc Penrhos: Galw am roi stop ar gynllun pentref gwyliau
Parc Penrhos: Galw am roi stop ar gynllun pentref gwyliau
Wrth i ddatblygwyr gyflwyno rhagor o fanylion ar gynllun dadleuol i drosi Parc Penrhos ym Môn yn bentref gwyliau, mae ymgyrchwyr yn galw unwaith yn rhagor i roi stop ar y cynllun.
Mae dogfennau newydd yn dangos gobaith y datblygwyr i godi safle a fyddai'n cynnwys 500 o gabanau pren a pharc hamdden allai arwain at greu 280 o swyddi parhaol.
Ond yn ôl ymgyrchwyr mi fyddai'r cynllun yn cael effaith ‘ddinistriol’ ar yr ardal.
Mynnu mae cwmni CG Recovery, sy’n gofalu am y cynllun, y byddai’n cynnig buddsoddiad gwerth £250m i’r ardal ac y byddai’r cyhoedd yn cael mynediad at y parc cyhoeddus o hyd.
Mae dyfodol Parc Penrhos, sy’n gorwedd ger tref Caergybi, wedi bod yn destun dadlau ers blynyddoedd.
Yn 2016, mi gafodd caniatâd cynllunio cychwynnol ei basio gan Gyngor Môn ar gyfer y cynllun i greu parc gwyliau.
Dros y ddegawd ddiwethaf mae dadlau wedi bod dros ddilysrwydd y caniatâd hwnnw ond yn 2024 mi ddyfarnodd yr uchel lys yn erbyn bwriad i gynnal adolygiad barnwrol.
Mi aeth y cwmni oedd yn gyfrifol am y cynllun, The 79th Group, i’r wal yn 2025 ac erbyn hyn y gweinyddwyr CG Recovery sydd wedi cyflwyno ‘cais materion a gedwir yn ôl’ sy’n cynnig mwy o fanylion ar y cynllun gwreiddiol yn ogystal ag ambell newid.
Yn ôl y grŵp sy’n ymgyrchu yn erbyn y cynllun, mi fyddai codi pentref gwyliau yn “ddinistriol”.
“Mae’n anodd rhoi mewn i geiriau sut fath o werth sydd yma, mae’n priceless”, meddai Mary Roberts, un sydd ‘di bod yn dod yma ers blynyddoedd.
“Da ni mewn coedwig ac mae o’n cefnogi gymaint o fyd natur.
“Maen nhw wedi gweithio mor galed i gael y wiwer goch yma.”
Yn ôl Mary Roberts, mae’r parc yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd cyfagos fwynhau’r awyr agored ac i gymdeithasu gyda phlant mewn oes lle mae lleihau oriau sgrin yn bwysig.
Ma’i hefyd o’r argraff na fyddai gymaint o swyddi yn cael eu darparu i bobl leol.
“Mae’r cwmni yn honni y byddai’n creu 280 o swyddi ond os da chi’n edrych ar feysydd carafán yn yr ardal, dwi’n meddwl fod hwnna yn overestimate”.
“Dwi’m yn gweld sut allai o greu gymaint.”
Un sy’n teimlo’n debyg ydi Vanessa Owen, sy’n byw ger llaw.
“Mae Penrhos yn rhan o’n hanes ni, yn rhan o’n etifeddiaeth ni ac ein bywyd ni.
“Mae bob dim yma - lan môr, coedwig, bywyd gwyllt a da ni 'di bod yn cerdded yma drwy bywyd fi - dros 50 mlynedd. Mae’n lle i ymlacio ac y gwir ydi ‘da ni eisiau i’n plant ni ac i blant nhw cael yr un profiad i fod yma."
Mae’n ategu fod y gymuned eisiau dod â’r safle dan berchnogaeth bobl leol er nad yw hynny yn bosib ar hyn o bryd.
Yn ôl y cynlluniau diweddaraf, mi fyddai 500 o gabannau yn cael eu codi yn ogystal â pharc hamdden, canolfan chwaraeon, siopau a bwytai.
Mynnu mae’r datblygwyr y byddai gan aelodau’r cyhoedd fynediad i nifer o rannau yn y parc o hyd.
Yn ôl Cyngor Môn nid yw’r cais diweddaraf yn gais cynllunio llawn.
Yn hytrach mae’n ‘gais materion a gedwir yn ôl a gyflwynwyd o dan y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn flaenorol’.
Cais sy’n cynnig mwy o fanylder yw hynny yn ogystal ag ambell newid i’r gwreiddiol, fydd yn gorfod derbyn sêl bendith yr awdurdod lleol yn y pen draw.
“Er ein bod yn ymwybodol o’r diddordeb cyhoeddus sylweddol yn y cais hwn ac ar ddeall bod y safle yn cael ei farchnata ar gyfer ei werthu, mae’r rhain yn faterion sydd ar wahân i’r broses gynllunio statudol”, meddai llefarydd.
“Fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, mae dyletswydd ar y Cyngor i asesu a phenderfynu ar y cais yn unol â deddfwriaeth a pholisïau cynllunio cyn y gwneir unrhyw benderfyniad.
“Fel rhan o’r broses honno, mae cyfle i’r cyhoedd gyflwyno eu safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad cynllunio statudol sydd ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr holl sylwadau’n cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o asesu’r cais.”
Yn ôl y cwmni sy’n gyfrifol am y cynllun, sef cwmni gweinyddol y CG Recovery, mae’r cais diweddara'n 'gam pwysig' i'r datblygiad.
"Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn rhan allweddol o'r cynllun ac wrth fireinio hwnnw mae sicrwydd o fynediad hir dymor i safle Cae Glas a'r llwybr arfordirol.
“Mae'r cynllun yn cynnig cyfle gwerth £250m i danio economi Môn a chreu 280 o swyddi," meddai.
Ychwanegodd llefarydd y byddai’n cynnig cyflogaeth drwy’r flwyddyn.
Serch hynny mae nifer fawr o ymgyrchwyr ym Môn yn galw am ddiwedd i’r cais hwnnw gan ddweud eu bod yn benderfynol o frwydro hyd y diwedd.
