Pam fod prisiau olew wedi codi'n sydyn eto?
Fe wnaeth prisiau olew godi ymhellach ddydd Gwener, gyda phris olew crai Brent yn agosáu at $110 y gasgen wrth i ymosodiadau yn y Dwyrain Canol ddwysáu.
Fe wnaeth pris contractau ar gyfer cyflenwadau olew crai Brent yn y dyfodol godi mor uchel â $109.97 y gasgen, y lefel uchaf ers mis Mai. Roedd y pris eisoes wedi codi mwy na 6% ddydd Iau.
Fe wnaeth costau benthyca hirdymor yr Unol Daleithiau a’r DU hefyd godi i’w lefel uchaf ers degawdau.
Daw’r cynnydd diweddaraf wrth i gyflenwadau olew drwy Gulfor Hormuz barhau i gael eu cyfyngu, gyda’r ymladd rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran yn parhau ac ymosodiadau ar danceri yn dwysáu yn y rhanbarth.
Mae pryderon hefyd wedi lledaenu i’r Môr Coch ar ôl i’r Houthis, sy’n gysylltiedig ag Iran, feddiannu porthladd Mocha yn Yemen.
Mae hynny wedi codi ofnau am darfu pellach ar lwybr llongau allweddol arall sy’n cael ei ddefnyddio i allforio ynni.
Roedd adroddiadau fore Gwener yn honni bod lluoedd yr Houthis wedi ymosod ar biblinell olew Dwyrain-Gorllewin Saudi Arabia mewn sawl man.
Mae’r biblinell strategol yn osgoi Culfor Hormuz ac yn cludo olew crai i’r Môr Coch.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio am effaith hyn oll ar faint o arian fydd gan bobl yn y DU i’w wario, wrth i gynnydd ym mhrisiau olew godi prisiau popeth arall hefyd.
Yn ogystal ag olew, mae prisiau nwy’r DU hefyd yn cyrraedd eu lefel uchaf ers bron i bedair blynedd.
Dywedodd Andrew Goodwin, prif economegydd Oxford Economics ar gyfer y DU: “Mae’r cynnydd ym mhrisiau nwy cyfanwerthol wedi bod yn fwy na’r arbediad o benderfyniad y Llywodraeth i ddileu TAW ar filiau trydan rhwng mis Hydref a mis Mawrth.
“Rydyn ni’n meddwl y gallai’r cap ar brisiau godi 13% arall ym mis Ionawr.
“Mae prisiau cyfanwerthol ar hyn o bryd yn llawer uwch na’u lefel yn ystod y cyfnod monitro blaenorol, ac mae ein tîm nwyddau crai yn disgwyl iddyn nhw aros yn uchel yn y tymor agos.”
