Cymorth i farw: Pam mae’r Bil yn ôl yn Senedd San Steffan?
Mae’r ddadl am farw â chymorth – neu yn benodol, y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) - yn ôl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Bydd ASau yn trafod y ddeddfwriaeth, ac mae pleidlais yn debygol o gael ei chynnal ganol y prynhawn.
Bil aelod preifat yw hwn, sydd hefyd yn cael ei alw’n Fil meinciau cefn, felly nid yw’n Fil sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth.
Mae’r Llywodraeth yn niwtral ar y mater, a bydd ASau yn pleidleisio yn ôl eu cydwybod, yn hytrach nag ar hyd llinellau pleidiol.
Beth mae’r Bil yn ei gynnig?
Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnig newid y gyfraith i ganiatáu i oedolion yng Nghymru a Lloegr, sydd â llai na chwe mis i fyw, wneud cais am farwolaeth â chymorth.
Byddai angen cymeradwyaeth dau feddyg a phanel arbenigol.
Beth ddigwyddodd tro diwethaf?
Fe wnaeth y Bil, a gafodd ei gyflwyno’n wreiddiol gan yr AS Llafur Kim Leadbeater, fethu ym mis Ebrill, ar ôl oedi mawr yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Daeth yr amser iddo ddod yn gyfraith i ben cyn i sesiwn y Senedd gael ei therfynu’n ffurfiol y mis hwnnw. I bob pwrpas, roedd y trafodaethau hirfaith wedi’i rwystro rhag mynd yn ei flaen.
Ond roedd wedi pasio dwy bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin cyn hynny, yn 2024 a 2025.
Felly, pam ei fod yn ôl?
Mae’r AS Llafur Lauren Edwards wedi ailgyflwyno’r Bil i’r Senedd.
Dywedodd fod pobl “yn rhwystredig am nad oedd y broses wedi cael ei chwblhau yn y Senedd ddiwethaf”.
Dywedodd ei bod yn “teimlo cyfrifoldeb tuag at y bobl hynny oedd wir eisiau i’r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno”.
Mae hi wedi apelio ar ei chyd-ASau yn Nhŷ’r Cyffredin i bleidleisio o blaid y Bil.
Dywedodd y byddai hynny “er mwyn i ni allu parchu ewyllys y siambr a’i weld yn mynd drwy’r prosesau arferol yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn union fel unrhyw ddeddfwriaeth arall”.
Pe bai yn mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi y tro yma fe fyddai wedyn yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin am bleidlais derfynol.
Mae cefnogwyr hefyd wedi awgrymu y gellid defnyddio Deddfau’r Senedd i oresgyn gwrthwynebiad yr Arglwyddi, os yw’n codi eto.
Beth mae gwrthwynebwyr yn ei ddweud?
Mae clymblaid newydd dros hawliau pobl anabl, Assist Us To Live, wedi annog ASau i wrthod y Bil. Mae’r actor Liz Carr a’r digrifwr Rosie Jones yn cefnogi’r glymblaid.
Mae’n galw am ddiwygio gofal cymdeithasol a gwell cyllid ar gyfer gofal lliniarol i helpu pobl ar ddiwedd eu hoes yn lle.
Mewn llythyr agored at ASau fis diwethaf, dywedodd y grŵp: “Rydyn ni’n ysgrifennu i alw am atal y broses ddeddfu ynghylch marw â chymorth nes bod gan bobl anabl a phobl â salwch terfynol gymaint o gymorth i fyw ag y byddai’r Bil hwn yn ei roi i ni farw.”
Beth mae cefnogwyr yn ei ddweud?
Mewn datganiad yn annog ASau i bleidleisio o blaid y Bil, soniodd y Fonesig Esther Rantzen am ei gofid wrth feddwl am ei hanwyliaid yn ei gweld yn “dioddef poen neu golli urddas”.
Mae hi’n derbyn gofal diwedd oes, a chadarnhaodd ei bod bellach yn rhy hwyr iddi “fynd i ffwrdd” i Dignitas fel yr oedd wedi bwriadu.
Dywedodd ei bod, er ei bod wedi “gwario’r arian a gwneud y cynlluniau” i fynd i Dignitas, bellach yn “rhy fregus yn gorfforol i wneud y daith”.
Dywedodd y Fonesig Esther nad yw’n ceisio “gorfodi fy newis i ar unrhyw un arall, ond rwy’n credu na ddylai fod ganddyn nhw hawl i orfodi eu dewis nhw arna i”.
