'Pam ddim Pwyll?': Dyn o Lanuwchllyn i herio Luke Littler am £501,000 ar Netflix

Newyddion S4C

'Pam ddim Pwyll?': Dyn o Lanuwchllyn i herio Luke Littler am £501,000 ar Netflix

Mae chwaraewr dartiau o Lanuwchllyn yn paratoi i herio pencampwr y byd, Luke Littler, ar raglen arbennig fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar Netflix nos Wener.

Mae Pwyll ap Llŷr Edwards ymhlith y cystadleuwyr sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn Beat Luke Littler, rhaglen sy'n rhoi cyfle i chwaraewyr dartiau herio rhif un y byd am wobr o £501,000.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw o Fanceinion, gyda'r cystadleuwyr yn ceisio curo Littler mewn un cymal o 501.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys 24 o chwaraewyr sy'n cystadlu am 20 lle i wynebu Littler, sydd yn 19 oed, a'r chwaraewr cyntaf i'w guro fydd yn ennill y wobr ariannol.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C yn ei dafarn leol yn Llanuwchllyn, dywedodd Pwyll ei fod wedi cael llawer o sylw ers cael gwybod y bydd yn herio'r pencampwr.

"Mae o 'di creu cryn dipyn o ddiddordeb o fewn pawb yn Llanuwchllyn a'r byd, gobeithio, am ei fod o'n fyw ar Netflix," meddai wrth Newyddion S4C.

Ond nid ar chwarae bach y mae herio Littler, sydd eisoes wedi ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ddwywaith.

Daeth Littler, sy'n cael ei adnabod fel The Nuke, yn bencampwr byd ieuengaf yn hanes gamp pan enillodd ei deitl cyntaf yn 17 oed.

Ers hynny, mae wedi dod yn seren fyd-enwog, gan ennill nifer o brif gystadlaethau eraill y byd dartiau hefyd, gan gynnwys yr Uwch Gynghrair a'r World Matchplay.

Ac er bod Pwyll yn ymwybodol o faint yr her sy'n ei wynebu, mae'n benderfynol o roi ei orau.

"Mae o'n dalent un mewn cenhedlaeth, efallai y gorau erioed, felly dwi'n mynd i roi go iddi a gobeithio ddo' i allan y pen arall," meddai.

Image
Luke Littler yn codi tlws Pencampwriaeth y Byd am yr eildro. Llun: Reuters
Luke Littler yn codi tlws Pencampwriaeth y Byd am yr eildro. Llun: Reuters

Tra bydd Pwyll yn wynebu'r pencampwr ym Manceinion, bydd ei gyd-chwaraewyr dartiau yn ôl yn Llanuwchllyn yn ei gefnogi o bell.

Mae parti gwylio wedi'i drefnu yn nhafarn yr Eagles, menter gymunedol sydd wrth galon y pentref, gyda'r gystadleuaeth yn cael ei dangos yn fyw ar sgrin fawr nos Wener.

Ac yn ôl Rhodri Jones, un o selogion dartiau'r dafarn, does dim rheswm pam na allai Pwyll achosi sioc a churo un o chwaraewyr gorau'r byd.

"Mae ganddo fo dipyn mwy o brofiad na Luke Littler, mae o wedi bod ar y byd 'ma dipyn yn hirach na Luke!" meddai.

"Tasa rhaid i fi bigo un person yn y league yma i guro Luke - pam ddim Pwyll?

"Dydy Pwyll ddim yn un am wastio amser, a dwi'n siŵr wneith o ennill a dod â chyfran o'r pres yn ôl i'r Eagles i wario!"

Ac roedd gan Rhodri un cais arall os bydd ei gyd-chwaraewr yn llwyddo i ennill yr arian.

"Mae'n dipyn o joban cael rownd gan Pwyll, felly mae'n hen bryd cael un!"

Beth yw Beat Luke Littler?

Mae Beat Luke Littler yn rhaglen arbennig gan Netflix, lle bydd chwaraewyr dartiau yn cael cyfle i herio pencampwr y byd mewn un cymal o'r gêm.

Bydd angen i'r cystadleuwyr gyrraedd sgôr o sero o'r 501 cychwynnol cyn Littler er mwyn ennill. Bydd y cyntaf i lwyddo yn ennill £501,000, a bydd y gystadleuaeth yn dod i ben.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys enwau adnabyddus eraill ym myd dartiau, gan gynnwys Fallon Sherrock, y fenyw gyntaf i ennill gêm ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd y PDC.

Gary Lineker fydd yn cyflwyno'r rhaglen, gyda Richard Osman yn darparu dadansoddiad o'r hyn sy'n digwydd.

Bydd Beat Luke Littler yn cael ei darlledu'n fyw ar Netflix am 19.00 nos Wener, 30 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.