Pa rannau o Gymru fydd yn cyflwyno treth twristiaeth yn 2027?
Mae’n debygol iawn mai Caerdydd fydd yr unig ardal yng Nghymru i gyflwyno treth twristiaeth, sy’n cael ei adnabod yn swyddogol fel ardoll ymwelwyr, yn 2027.
Daw hynny wedi i Wynedd, Ynys Mon a Conwy wynebu oedi’r broses o gyflwyno y dreth neu roi'r syniad o 'dreth twristiaeth' i'r neilltu am y tro.
Mae cefnogwyr y math yma o ffi, sy’n eithaf cyffredin ar draws Ewrop, yn dweud y bydd yn helpu cymunedau i ddelio â heriau twristiaeth - ond mae gwrthwynebwyr yn poeni y bydd yn niweidio’r diwydiant ymwelwyr.
Mae unrhyw gyngor sir sydd eisiau cyflwyno’r ardoll yn gorfod rhoi rybudd o 12 mis i Awdurdod Cyllid Cymru, a gwneud hynny un ai cyn 1 Ebrill neu 1 Hydref.
Y brifddinas yn barod i fynd...
Fe fydd ardollau ymwelwyr yn dod i rym yng Nghaerdydd ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae ffi o 75c y pen y noson ar gyfer hosteli a lleiniau pebyll, a £1.30 y pen y noson ar gyfer pob llety arall, fel gwestai, llety hunanarlwyo neu garafannau.
Bydd rhaid i ddarparwyr ddechrau ychwanegu’r ardoll at archebion o 28 Medi eleni, os yw llety’n cael ei fwcio ar gyfer Ebrill nesaf neu’n hwyrach.
Dywedodd y cyngor y bydd yr ardoll “yn cynhyrchu buddsoddiad i gefnogi a gwella economi ymwelwyr y ddinas, gan helpu i wella profiad ymwelwyr, a chryfhau arlwy twristiaeth Caerdydd”.
Ni fyddwch yn talu'r ardoll ymwelwyr os ydych chi o dan 18 oed ac yn aros mewn pabell ar lain safle gwersylla neu mewn ystafell a rennir (fel hostel neu ystafelloedd cysgu).
Ni fydd chwaith angen talu os yw archebu yn caniatáu i chi aros am fwy na 31 noson, neu yn aros mewn tai brys neu dros dro a drefnwyd gan y Cyngor lleol mewn perthynas â digartrefedd.
... ond oedi yng Ngwynedd
Mae swyddogion yng Ngwynedd wedi gorfod oedi’r broses o gyflwyno ‘treth twristiaeth’ bosib yn y sir wedi iddyn nhw dderbyn bron i 7,000 o ymatebion i ymgynghoriad ar y mater.
Mae’r sir yn y gogledd-orllewin yn un o dair sydd wedi holi’r cyhoedd dros yr haf am eu barn ar y pwnc dadleuol, gyda chynghorau Ynys Môn a Chonwy yn gwneud yr un peth.
Fe fydd y mater yn mynd gerbron cynghorwyr yn y dair awdurdod lleol mewn cyfarfodydd llawn dydd Iau, Medi 24, ond bydd pob un yn ystyried argymhellion i oedi neu beidio gweithredu am y tro.
Roedd Gwynedd wedi gobeithio gallu cyflwyno adroddiad llawn i gynghorwyr ei ystyried yn y cyfarfod ddydd Iau, ond fydd hynny ddim yn digwydd oherwydd maint yr ymateb yr ymgynghoriad - gan olygu na fydd y sir yn gallu gyrru’r rhybudd priodol i’r Awdurdod Cyllid i gyflwyno’r mesurau posib yn 2027.
“Yn wreiddiol, y bwriad oedd cyflwyno adroddiad am benderfyniad i'r Cyngor Llawn ar 24 Medi 2026,” meddai’r adroddiad sy’n rhan o agenda cynghorwyr y sir.
“Y prif reswm dros gyflwyno adroddiad ar 24 Medi 2026 oedd er mwyn rhoi rhybudd 12 mis i Awdurdod Cyllid Cymru o’n bwriad er mwyn cychwyn codi’r Ardoll o 1 Hydref 2027, pe byddai penderfyniad i wneud hynny.
“O ystyried yr ymestyniad o 11 diwrnod a roddwyd i’r ymgynghoriad ar gais Partneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035, y nifer uchel o ymatebion sydd wedi eu derbyn a’r amrediad o feysydd sydd wedi codi; nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa i wneudpenderfyniad ar Gynnig Ardoll Ymwelwyr Gwynedd ar hyn o bryd.”
Yn ôl y ddogfen, roedd nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad - 6,856 - yn “uwch na’r hyn ragwelwyd” ac yn llawer mwy na’r niferoedd ym Môn a Chonwy.
Mae’n dweud fod dadansoddiad cychwynnol yn dangos fod 48.7% o drigolion Gwynedd o blaid ardollau ymwelwyr - a 43.5% yn erbyn - ond, o ystyried ymatebion ymwelwyr a busnesau hefyd, roedd 68.5% o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu’r syniad, gydag ond 22.7% o blaid.
Môn a Chonwy
Mae swyddogion ym Môn a Chonwy yn argymell rhoi'r syniad o 'dreth twristiaeth' i'r neilltu am y tro wrth i gynghorwyr yno hefyd baratoi i ddod ynghyd ddydd Iau.
Mae'r siroedd hynny wedi cael amser i gwblhau eu dadansoddiad o'u hymgynghoriadau.
Fe dderbyniodd Cyngor Ynys Môn bron i 2,100 o ymatebion i’w hymgynghoriad nhw ar y mater, gyda tua 71% yn gwrthwynebu a 25% yn cefnogi’r syniad.
Yn ôl yr adroddiad i’r awdurdod, roedd y rheiny sy’n gwrthwynebu’n pryderu am yr effaith ar fusnesau bach a llety hunan-arlwyo, tra fod cefnogwyr y dreth yn aml yn cyfeirio at y pwysau ar gymunedau yn sgil twristiaeth.
Ond mae’r adroddiad yn argymell na ddylai’r cyngor fabwysiadu’r ardoll ymwelwyr am y tro “o ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith".
Yn hytrach, bydd mae’n argymell y dylai’r cyngor “ystyried tystiolaeth effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ddewisodd mabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol” cyn gweithredu ymhellach.
Argymhelliad tebyg sydd gerbron cynghorwyr yng Nghonwy, sy’n awgrymu fod y penderfyniad ar gyflwyno ardoll ymwelwyr yn “cael ei ohirio nes mae rhagor o dystiolaeth a phrofiad i allu gwneud penderfyniad cytbwys.”
Fe gafodd y cyngor sir yno 1,210 o ymatebion, gyda 62% o’r rheiny roddodd ymateb clir yn gwrthwynebu’r mesur a thua 34% o blaid.