Oriel luniau: 10 mlynedd ers i Gymru ennill yn erbyn Gwlad Belg yn EURO 2016

Cymru Gwlad Belg EURO 2016

Mae'n 10 mlynedd ddydd Mercher ers i Gymru ennill yn erbyn Gwlad Belg a sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol EURO 2016.

Dyma un o fuddugoliaethau mwyaf hanesyddol yn hanes pêl-droed Cymru.

Er i Wlad Belg fynd ar y blaen, fe wnaeth peniad Ashley Williams wedi 32 munud unioni'r sgôr.

Yn yr ail hanner fe sgoriodd Hal Robson-Kanu un o goliau gorau'r bencampwriaeth, wrth iddo droi yn y cwrt 16 a mynd heibio tri amddiffynnwr, cyn rhwydo heibio Thibaut Courtois.

Fe wnaeth Sam Vokes sicrhau'r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm gyda pheniad i gefn y rhwyd, a sicrhau lle Cymru yn y pedwar olaf.

Dyma rai o'r lluniau gorau o'r diwrnod hanesyddol hwnnw.

Image
Ashley Williams yn penio i gefn y rhwyd. Dyma oedd un o'i ddwy gôl dros Gymru.
Ashley Williams yn penio i gefn y rhwyd. Dyma oedd un o'i ddwy gôl dros Gymru.
Image
Dathliadau ar ôl i Ashley Williams unioni'r sgôr.
Dathliadau ar ôl i Ashley Williams unioni'r sgôr.
Image
Y rheolwr, Chris Coleman
Y rheolwr, Chris Coleman
Image
Noson fythgofiadwy i'r Wal Goch yn Lille
Noson fythgofiadwy i'r Wal Goch yn Lille
Image
Aaron Ramsey yn ymateb i ddebryn garden felen gostus, a oed dyn golygu ei fod yn colli'r rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal
Aaron Ramsey yn ymateb i ddebryn garden felen gostus, a oedd yn golygu ei fod yn colli'r rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal
Image
‘Coron ar un o symudiadau gorau’r Bencampwriaeth’: Geiriau Nic Parry ar ôl gôl Hal Robson-Kanu
‘Coron ar un o symudiadau gorau’r Bencampwriaeth’: Geiriau Nic Parry ar ôl gôl Hal Robson-Kanu
Image
Cymru ar y blaen ar ôl gôl Robson-Kanu
Cymru ar y blaen ar ôl gôl Robson-Kanu
Image
'Paid â chroesi'r bêl honno Christopher': Doedd Gunter heb wrando ar eiriau Chris Coleman, a sgoriodd Cymru o ganlyniad i hynny
'Paid â chroesi'r bêl honno Christopher': Doedd Gunter heb wrando ar eiriau Chris Coleman, a sgoriodd Cymru o ganlyniad i hynny

 

Image
Together Stronger: Y garfan fel un ar ddiwedd noson hanesyddol
Together Stronger: Y garfan fel un ar ddiwedd noson hanesyddol
Image
Dawnsio dawnus: Roedd Joe Ledley wrth ei fodd â dathlu yn EURO 2016
Dawnsio dawnus: Roedd Joe Ledley wrth ei fodd dathlu yn EURO 2016
Image
'Y ddraig ar fy mrest': Gareth Bale yn dathlu gyda'r cefnogwyr
'Y ddraig ar fy mrest': Gareth Bale yn dathlu gyda'r cefnogwyr
Image
Chris Gunter yn chwifio'r faner yn falch
Chris Gunter yn chwifio'r faner yn falch

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.