Opera newydd 90 mlynedd ers Llosgi’r Ysgol Fomio
Mae opera Gymraeg newydd sy’n adrodd hanes Llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn mynd ar daith ledled Cymru, 90 mlynedd ers y weithred.
OPRA Cymru sydd wedi comisiynu’r cyfansoddwr Gareth Glyn i greu’r gerddoriaeth ar gyfer yr opera newydd, Fflamau Penyberth.
Cafodd y libreto ei ysgrifennu gan sylfaenydd y cwmni, Patrick Young, mewn cydweithrediad â’r awdur a’r hanesydd Arwel Vittle.
Meddai Patrick Young: “I nodi 90 mlynedd ers digwyddiad a oedd yn drobwynt hanesyddol i ddyfodol y Gymraeg, mae’r opera newydd ar fin teithio Cymru gyda chast gwych sydd i gyd wedi gweithio gydag OPRA Cymru yn y gorffennol.
“Mae Gareth Glyn yn dychwelyd i weithio gydag OPRA Cymru i ailadrodd stori ryfeddol tri dyn parchus a roddodd ganolfan y llu awyr ar dân cyn trosglwyddo eu hunain i’r heddlu.”
Yr hanes
Ar 8 Medi 1936, rhoddodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams adeiladau’r Awyrlu ym Mhenrhos, ger Pwllheli, ar dân.
Roedd y tri yn aelodau blaenllaw o Blaid Genedlaethol Cymru, rhagflaenydd Plaid Cymru heddiw.
Ar ôl y weithred, aethant i Orsaf Heddlu Pwllheli i ildio eu hunain.
Yn dilyn achos yn Llys y Goron Caernarfon, methodd y rheithgor â dod i ddyfarniad. Cafodd yr achos ei symud i’r Old Bailey yn Llundain, lle cafodd y tri eu dedfrydu i naw mis yng Ngharchar Wormwood Scrubs.
Ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, cafodd y tri eu croesawu gan dorf o 15,000 o bobl yng Nghaernarfon.
Roedd Penyberth wedi bod yn gartref i genedlaethau o noddwyr beirdd ac yn fan gorffwys i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli.
Roedd y Weinyddiaeth Awyr yn bwriadu defnyddio’r safle fel maes awyr a chanolfan hyfforddi, gan gynnwys ysgol fomio. Arweiniodd y cynlluniau at brotestiadau eang yng Nghymru.
‘Rhyddid artistig’
Dywedodd Arwel Vittle: “Heb ddatgelu gormod mae’r opera yn dechrau gyda Lewis Valentine mewn cell yn y carchar ac mae’r stori yn cael ei hadrodd mewn cyfres o olygfeydd sy’n adrodd y stori hyd at y pwynt yna.
“Mae Patrick wedi defnyddio rhywfaint o ryddid artistig wrth adrodd y stori ac mae rhai digwyddiadau wedi’u crynhoi ond mae craidd y stori yn glynu at y ffeithiau hanesyddol.”
Bydd Robyn Lyn Evans, Emyr Wyn Jones a Robin Gruffudd Hughes yn canu’r prif rannau, gyda chefnogaeth cast o chwech arall.
Bydd perfformiad cyntaf Fflamau Penyberth yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ddydd Iau 19 Tachwedd.
Bydd yr opera wedyn yn ymweld â Rhosllannerchrugog, Bangor, Abertawe, y Barri, Aberhonddu ac Aberystwyth, cyn dychwelyd i Bwllheli ar 5 Rhagfyr.