'O'n i'n rhif yn unig': Tad o Fangor yn galw am ofal iechyd meddwl gwell ar y GIG
'O'n i'n rhif yn unig': Tad o Fangor yn galw am ofal iechyd meddwl gwell ar y GIG
Mae tad o Fangor yn galw am ofal iechyd meddwl gwell gan y GIG ar ôl iddo ddweud nad oedd yn teimlo ei fod yn cael ei weld "fel person".
Daw sylwadau Aled Edwards, sylfaenydd menter ‘Sut Mae Dad?’, wrth i ystadegau newydd ddangos bod rhestrau aros am gymorth iechyd meddwl yng Nghymru ar eu huchaf ers pandemig Covid-19.
Mae dros 9,000 o bobl yn disgwyl am gymorth seicolegol, yn ôl yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru.
Roedd dros 4,300 o’r bobl hynny wedi bod yn aros am dros chwe mis i gael cymorth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n cydnabod bod rhestrau aros am gymorth iechyd meddwl "yn annerbyniol o uchel".
Roedd yn rhaid i Aled Edwards aros am bron i ddwy flynedd cyn cael ei weld gan seicolegydd a seiciatrydd am y tro cyntaf.
“Pan es i at y GIG, dyna pryd oeddwn i angen help fwyaf. Ond doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod yn cael fy ngweld fel person. Roeddwn i jest yn rhif neu’n statistic iddyn nhw,” meddai.
“Dwi’n gwybod faint o straen mae’r staff i gyd yn ei hwynebu. Mae’r system i gyd wedi torri, ddim jest y gwasanaeth iechyd meddwl.
Wrth drafod dechrau ei ofal ar y GIG, dywedodd: “Fe wnaethon nhw roi fi yn syth ar feddyginiaeth, heb drafod o ryw lawer hefo fi.
"Edrych yn ôl, ‘dw’i ddim yn meddwl bod lot o reswm i fi fod ar y meddyginiaethau penodol yna - dim hwnna oedd yr un iawn i mi, ond doedd dim trafodaeth am ba feddyginiaeth i gymryd.
“Daeth y tîm cymorth yn y cartref i weld fi am y pythefnos cyntaf. Ar ôl hynna, roeddwn i ar ben fy hun. Doedd dim trafodaeth ynglŷn â be’ oedd yn dod nesa’ neu unrhyw driniaeth ychwanegol wrth fynd ymlaen.”
Mae Simon Jones, pennaeth polisi Mind Cymru, yn dweud bod rhestrau aros yn atal pobl sydd angen "ymyrraeth fwy dwys" rhag cael cymorth yn gynt.
“Mae’r ystadegau yma yn edrych ar y bobl yna sydd angen help mwy arbenigol gyda'u hiechyd meddwl, dyma’r bobl sydd angen ymyrraeth fwy dwys," meddai.
“Mae gorfod aros mor hir i gael yr help maen nhw angen yn gallu cael effaith negyddol ac achosi eu hiechyd meddwl i ddirywio.
“Yn aml dydy pobl ddim yn cael gwybodaeth am ble maen nhw ar y rhestr aros. Maen nhw yn teimlo ar goll, wedi eu hanghofio, ac yn ddiobaith wrth wynebu rhestrau aros mor hir.
“Mae cael yr help sydd angen arnyn nhw yn gallu newid eu bywydau. Mae’n galluogi nhw i wella, a symud ymlaen gyda'u bywydau. “
'Cymaint o angen'
Ar ôl ei brofiad gyda’r GIG, penderfynodd Aled fynd yn breifat i gael cwnsela.
“Wnes i ddechrau chwilio o gwmpas am opsiynau eraill, a daeth o i’r amlwg doedd dim llawer i gael," meddai.
Ym mis Awst 2024, penderfynodd sefydlu menter ‘Sut Mae Dad?’ i annog dynion eraill i ddod at ei gilydd i drafod eu hiechyd meddwl yn agored ac i gynnig cymorth i eraill.
“Ers cychwyn 'Sut Mae Dad?', ‘dw’i wedi gweithio gyda dros 1,500 o ddynion," meddai.
"Dwi’n cynnig cymorth iddyn nhw drwy gwnsela, a’n rhoi lle iddyn nhw siarad am eu teimladau a’u hiechyd meddwl yn agored.”
Mae Aled wedi llwyddo i gael cymhwyster lefel 3 mewn cwnsela ac wedi ymgymryd â chwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Mae Aled eisiau gweld mwy o fuddsoddiad mewn elusennau iechyd meddwl er mwyn iddyn nhw barhau i roi cymorth i’r rheiny sydd ei angen.
“Mae’r gwaith ‘dwi’n gwneud yn hollol wirfoddol," meddai.
"Ond ‘dw’i wedi gweld cymaint o angen amdano. Dwi’n trïo fy ngorau glas i wneud o, ond mae angen mwy o fuddsoddiad i barhau i roi'r cymorth.
“Dwi’n meddwl bod angen ail-feddwl ble mae’r pres yn mynd. Mae angen ariannu'r trydydd sector yn well.
“Mae cymaint o elusennau allan yna sydd yn gwneud gwaith gwych, sydd isho helpu pobl, sydd isho gwneud mwy.
"Ond yn lle treulio’u hamser yn gwneud y gwaith, maen nhw’n treulio eu hamser yn chwilio am bres."
Yn ôl Simon Jones o Mind Cymru, mae angen sicrhau bod cymorth ar gael yn gynharach i bobl sydd ei angen.
“Ar draws y gwasanaeth iechyd rydyn ni’n gweld cynnydd mawr yn y nifer sydd angen cymorth gyda'u hiechyd meddwl. Mae ein cydweithwyr ni yn y gwasanaeth iechyd yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi," meddai.
“Os allwn ni gefnogi pobl yn gynharach, fel bod pobl yn gallu cael yr help maen nhw angen yn syth, gall hynny leihau'r nifer sydd angen help arbenigol yn y pendraw.
“Yn hytrach na system ble mae angen mynd drwy asesiadau ac atgyfeiriadau cyn gallu cael triniaeth, bydd mynediad agored i gymorth iechyd meddwl yn gallu bod yn drawsnewidiad hollbwysig.”
'Parhau i wella'
Mewn ymateb i brofiad Aled, dywedodd Teresa Owen, cyfarwyddwr gweithredol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddor iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Ni allwn wneud unrhyw sylw ar fanylion yr achos hwn, heb ganiatâd y claf.
Rydym ni yn ymddiheruo os yw unrhyw un yn teimlo nad yw eu triniaeth wedi cyrraedd y safon y maent yn ei disgwyl a byddem yn eu hannog i gysylltu â'n Gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl (PEARS). Mae hyn yn ein helpu i ddeall achosion unigol yn llawnach ac ymateb yn fanwl i'w pryderon.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod rhestrau aros am gymorth iechyd meddwl yn annerbyniol o uchel, a dyna pam mae lleihau amseroedd aros yn un o'n prif flaenoriaethau fel Llywodraeth newydd.
"Mae pob bwrdd iechyd yn cynnig therapïau seicolegol arbenigol i gefnogi pobl ag ystod o broblemau iechyd meddwl, ond mae angen i ni barhau i wella mynediad amserol ac mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i leihau amseroedd aros.
"Rhan allweddol o'n Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn, heb oedi, drwy ddull mynediad agored sy'n galluogi cymorth yn seiliedig ar angen yn hytrach nag atgyfeirio.
"Gan adeiladu ar fentrau fel 111 Pwyso 2, therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein a Dewis Arall yn Lle Derbyn, rydym am roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i bobl o ran sut maen nhw'n cael mynediad at wasanaethau."