Oedi gwrandawiad yn achos dynes o Nefyn oedd wedi dwyn arian cwsmeriaid bregus

Kelly Kurshaw

Mae gwrandawiad o dan Ddeddf Enillion Troseddau yn achos dynes o Nefyn yng Ngwynedd a wnaeth ddwyn miloedd gan gwsmeriaid bregus wedi ei ohirio yn Llys y Goron Caernarfon.

Fe gafodd Kelly Kershaw, 54 oed, ei charcharu am 16 mis ym mis Mai ar ôl pledio'n euog i dwyll tra'r oedd yn gweithio mewn cymdeithas adeiladu yng Nghaernarfon.

Roedd hi wedi defnyddio rhywfaint o'r arian oedd yn perthyn i gwsmeriaid bregus er mwyn mynd ar wyliau tramor.

Fe fu hi ar wyliau sgïo ac ar drip saffari yn Affrica, ac roedd lluniau ohoni ar wyliau ym Mharis, Toscana, Groeg, Mecsico, y Maldives, Indonesia, Norwy, Dubai a lleoliadau eraill hefyd.

Dywedodd Elen Owen ar ran yr erlyniad wrth Lys y Goron Caernarfon bod Kelly Kershaw ar hyn o bryd yn garcharor yng Ngharchar Drake Hall yn Sir Stafford yn Lloegr.

Nid oedd Mrs Kershaw yn bresennol yn y gwrandawiad ac fe glywodd y llys nad oedd ganddi gynrychiolaeth gyfreithiol ar hyn o bryd.

Fe wnaeth y Barnwr Timothy Petts oedi’r achos tan 8 Hydref.

“Os nad ydi hi’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu, mae’n debygol y bydd yn rhaid cyflwyno gorchymyn yn ei herbyn ar 8 Hydref,” meddai.

Clywodd y llys fod ganddi bensiwn a’i bod yn gyd-berchennog ar dŷ.

Y cefndir

Roedd Kershaw wedi cyflawni'r troseddau yn 2023 a 2024 wrth weithio fel ariannwr (cashier) yng nghymdeithas adeiladu Nationwide yng Nghaernarfon.

Fe wnaeth Nationwide gynnal ymchwiliad mewnol ar ôl i aelodau staff sylwi ei bod yn mynd ar wyliau drud.

Daeth ymchwiliad Nationwide i'r casgliad fod pump o gwsmeriaid yn ddioddefwyr yn yr achos, a bod £8,600 wedi'i ddwyn oddi wrthyn nhw.

Clywodd y llys yn ystod yr achos bod y cwsmeriaid a gafodd eu twyllo yn cynnwys dioddefwr strôc 85 oed, dyn 49 oed ag anawsterau dysgu, a thri phensiynwr.

Roedd y dyn ag anawsterau dysgu wedi bod yn ddioddefwr twyll arall yn flaenorol.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts, wrth ddedfrydu’r fam yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Mai, ei bod hi wedi dewis “targedau hawdd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.