Oedi i gefnogwyr rygbi sy’n dychwelyd o Ddulyn oherwydd ‘problemau technegol’

Oedi i gefnogwyr rygbi sy’n dychwelyd o Ddulyn oherwydd ‘problemau technegol’

Mae cannoedd o Gymry yn wynebu noson arall yn Nulyn oherwydd "problemau technegol" gydag un o'r llongau yng Nghaergybi.

Mae rhai o wasanaethau Stena Line ac Irish Ferries wedi cael eu canslo neu eu gohirio oherwydd y digwyddiad.

Dywedodd Stena Line fod yna “broblem dechnegol" gyda'r llong Stena Adventurer yng Nghaergybi.

Mae'r gwasanaeth 16:30 o Ddulyn i Gaergybi wedi’i ganslo, ac mae yna "amheuaeth" am y gwasanaeth 22.30. 

Mae gwasanaethau 7.30 a 19.45 Irish Ferries o Gaergybi i Ddulyn wedi'i restru fel "wedi'u gohirio" ac mae'r gwasanaeth 13.45  i Ddulyn wedi'i ganslo.

Dywedodd Irish Ferries: "Oherwydd rhesymau eithriadol, nid yw'r Ulysses yn gallu angori yng Nghaergybi. Diweddariadau i ddilyn."

'Stuck'

Dywedodd Alaw Robyns, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, wrth Newyddion S4C ei bod hi wedi bod ar long Irish Ferries ers rhai oriau yn disgwyl i gael gadael ar ôl bod yn Nulyn ar gyfer gêm Cymru nos Wener.

"'Dan ni newydd lanio yn y dociau ond ar y funud 'dan ni methu gadael y llong," meddai.

"Yn ôl pob sôn mae problemau technegol wedi bod ers tua 10:00, ac mae’r ramp wedi mynd yn sownd felly dydy o ddim yn gallu dod fyny. 

"Dwi ddim yn ormodol o bryderus am fod yn stuck achos mae pethau fel hyn yn gallu digwydd, ond dwi’n poeni mwy am y ffaith bod gen i aseiniad i’w gyflwyno fory a does gen i ddim fy ngliniadur i’w orffen gan mod i’n sownd ar y llong."

Dywedodd Abner Price sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth Newyddion S4C nad oedden nhw wedi cael gwybod pryd oedden nhw'n gallu gadael Dulyn i fynd adre.

"O'n ni fod gadael am 16.30 heddiw ond ni wedi cael gwybod bod un fferi Stena yn sownd yng Nghaergybi," meddai. "Ac mae wedi achosi ciws nawr i'r fferis eraill.

"Mae jest yn lot o ffaff nawr yndyw e, achos ni wedi cael cic mas o'r accommodation a ni jesd ddim yn gwybod ble i fynd rili."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.