Oedi i deithwyr llongau o Ddulyn yn parhau am ail ddiwrnod
Mae teithwyr sy'n cynnwys cefnogwyr rygbi Cymru yn wynebu ail ddiwrnod o oedi wrth iddyn nhw geisio dychwelyd o Ddulyn ddydd Llun.
Roedd cannoedd o Gymry yn wynebu noson arall yn Nulyn nos Sul oherwydd "problemau technegol" gydag un o'r llongau yng Nghaergybi.
Cafodd rhai o wasanaethau Stena Line ac Irish Ferries eu canslo neu eu gohirio ddydd Sul oherwydd y digwyddiad.
Dywedodd Stena Line fod yna "broblem dechnegol" gyda'r llong Stena Adventurer yng Nghaergybi a oedd yn golygu nad oedd gwasanaethau eraill yn rhedeg.
Ymhlith y rhai sydd wedi'u heffeithio mae cefnogwyr rygbi Cymru sy'n ceisio dychwelyd o Ddulyn yn dilyn gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ddydd Gwener.
Mae'r diweddariadau diweddaraf gan y ddau gwmni fferi yn dangos bod y gwasanaethau'n parhau i gael eu heffeithio ddydd Llun.
Mae disgwyl i'r Stena Estrid adael Dulyn am 10.15 fel y disgwyl, ond mae gwasanaeth y Stena Adventurer am 16.30 wedi'i ganslo.
Mae gwasanaethau o Gaergybi i Ddulyn yn parhau i gael eu heffeithio hefyd. Roedd y Stena Estrid i fod i adael am 04.00 fore Llun, ond cafodd y daith ei chanslo.
Mae gwasanaeth 10.00 y Stena Adventurer o Gaergybi hefyd wedi'i ganslo, gyda'r gwasanaeth nesaf am 16.00.
'Ddim yn gwybod ble i fynd'
Dywedodd Alaw Robyns, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, wrth Newyddion S4C dydd Sul ei bod hi wedi bod ar long Irish Ferries ers rhai oriau yn disgwyl i gael gadael ar ôl bod yn Nulyn ar gyfer gêm Cymru nos Wener.
"'Dan ni newydd lanio yn y dociau ond ar y funud 'dan ni methu gadael y llong," meddai.
"Yn ôl pob sôn mae problemau technegol wedi bod ers tua 10.00, ac mae’r ramp wedi mynd yn sownd felly dydy o ddim yn gallu dod fyny.
"Dwi ddim yn ormodol o bryderus am fod yn stuck achos mae pethau fel hyn yn gallu digwydd, ond dwi’n poeni mwy am y ffaith bod gen i aseiniad i’w gyflwyno fory a does gen i ddim fy ngliniadur i’w orffen gan mod i’n sownd ar y llong."
Dywedodd Abner Price, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, nad oedden nhw wedi cael gwybod pryd oedden nhw'n gallu gadael Dulyn i fynd adref.
"O'n ni fod gadael am 16.30 ond ni wedi cael gwybod bod un fferi Stena yn sownd yng Nghaergybi," meddai. "Ac mae wedi achosi ciws nawr i'r fferis eraill.
"Mae jest yn lot o ffaff nawr yndyw e, achos ni wedi cael cic mas o'r accommodation a ni jesd ddim yn gwybod ble i fynd rili."
