Oedi dechrau ras hanner marathon yn Abertawe yn sgil 'digwyddiad' yng nghanol y ddinas
Cafodd dechrau ras hanner marathon yn Abertawe ei hoedi am gyfnod fore Sul yn sgil "digwyddiad" yng nghanol y ddinas.
Roedd trefnwyr Hanner Marathon Abertawe wedi rhybuddio y gallai dechrau'r ras gael ei hoedi wrth i'r gwasanaethau brys gael eu galw.
Dywedodd Heddlu'r De bod y gwasanaethau brys wedi'u galw i ymateb i dân mewn cegin ar Heol y Cwt Newydd, gyda'r ffordd ar gau am "gyfnod byr".
Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r digwyddiad, sy'n denu miloedd o redwyr bob blwyddyn, ddechrau am 09.00 ddydd Sul.
Ond 25 munud ar ôl yr amser cychwyn, cyhoeddodd y trefnwyr fideo yn dangos y rhedwyr yn dechrau'r ras.
Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd Hanner Marathon Abertawe: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yng nghanol y ddinas.
"Mae'r gwasanaethau brys yn bresennol a gallai hyn effeithio ar yr amser cychwyn.
"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y gallwn."
